Stamp amser presennol: 20/07/25 07:47:27
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police force crest / Arwyddlun Heddlu De Cymru

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio am berson sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin: MBE i arloeswr o Heddlu De Cymru ym maes dadansoddi

Cynnwys y prif erthygl

Y diweddaraf
Cyhoeddwyd: 22:31 13/06/25

Mae un o aelodau staff Heddlu De Cymru sydd wedi bod yn arloeswr ym maes dadansoddi wedi'i gydnabod gydag MBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin.

Mae Mike Parry, sy'n Bennaeth Dadansoddi yn Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol Tarian, wedi'i anrhydeddu am ei wasanaethau i blismona.

mike parry mbe.jpg

Ar ôl graddio o Brifysgol Abertawe, dechreuodd Mike ei yrfa ym maes gwasanaethau cyhoeddus fel swyddog gyda'r adran Safonau Masnach yn Abertawe yn 1984. Yno datblygodd ei ddiddordeb mewn dadansoddi, a'i ysgogi i symud i blismona.

Ers ymuno â Heddlu De Cymru yn 2007, bu Mike yn allweddol wrth ddatblygu adnoddau a phrosesau sydd wedi chwyldroi galluoedd dadansoddol yr heddlu, ac wedi gwella plismona yn y DU a thu hwnt.

Mike oedd yn gyfrifol am system a wnaeth alluogi Heddlu De Cymru i ddarparu data hollbwysig i swyddogion rheng flaen mewn ffordd gyflym ac effeithlon. Cafodd y system hon ei chydnabod yn genedlaethol a rhyngwladol.

Tra roedd ar secondiad i Gyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu, bu Mike yn ymwneud â datblygu'r model sgorio bygythiadau cenedlaethol MoRile. Mae hwn bellach yn cael ei ddefnyddio ym maes gorfodi'r gyfraith yn y DU gyda Mike fel arweinydd Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu. Chwaraeodd rôl allweddol hefyd yn natblygiad cychwynnol galluoedd Cronfa Ddata Genedlaethol yr Heddlu.

Gan ddefnyddio'i arbenigedd sylweddol, roedd Mike yn ganolog i greu'r strwythur dadansoddol yn Heddlu De Cymru a helpodd i ddatblygu'r genhedlaeth bresennol o ddadansoddwyr yn yr heddlu. Mae wedi gwasanaethu fel hyfforddwr a mentor i lawer ac wedi cefnogi'r gwaith o ddatblygu Rhaglen Proffesiynoldeb Cudd-wybodaeth genedlaethol ar gyfer dadansoddwyr ac ymchwilwyr yr heddlu. Yn ogystal, creodd Mike y Bwrdd Cenedlaethol Gallu i Ddadansoddi sy'n parhau i wasanaethu fel llwyfan ar gyfer datblygiad a chyfeiriad strategol gwaith dadansoddi'r heddlu drwy Gymru a Lloegr.

Mae Mike, sydd bellach yn uwch-arweinydd yn Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol Tarian, yn chwarae rhan allweddol wrth fynd i'r afael â Throseddau Difrifol a Chyfundrefnol ar hyd a lled de Cymru. Mae wedi'i gydnabod gan uwch-swyddogion am wella proffesiynoldeb ac effeithlonrwydd Tarian a rhwydwaith ehangach yr Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol.

Wrth ymateb i'w anrhydedd, dywedodd Mike:

“Rwy'n teimlo'n freintiedig ac yn ddiolchgar i dderbyn MBE am wasanaethau i blismona yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin.
“Mae'r rheini sy'n fy adnabod yn ymwybodol pa mor frwdfrydig ydw i ynghylch gwaith dadansoddwyr yr heddlu a'r rôl arwyddocaol maent yn ei chwarae wrth ganfod ac atal troseddau yn ein cymunedau. Rwyf wedi bod yn ffodus drwy gydol fy ngyrfa i helpu i hyfforddi a gweithio gyda rhai o'r dadansoddwyr heddlu gorau yn y DU a thramor.
“Rwy'n ddiolchgar iawn i'm cydweithwyr a'r Pwyllgor Anrhydeddau am ystyried fy mod i'n deilwng o'r gydnabyddiaeth hon.”

Ychwanegodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan:

“Mae Mike yn llawn haeddu'r anrhydedd hwn. Ers ymuno â Heddlu De Cymru, mae wedi ymroi ei yrfa i ddatblygu dadansoddeg ym maes gorfodi'r gyfraith.
“Mae cyfuniad unigryw Mike o blismona a gwybodaeth dechnegol, ynghyd â'i gymhelliant a'i angerdd, yn parhau i arwain at arloesedd ar raddfa genedlaethol. Mae Mike yn aelod gwerthfawr iawn o Dîm HDC ac mae'n esiampl ac yn ysbrydoliaeth i'r rheini sy'n gweithio gydag ef. Rwy'n falch iawn iddo fe.”

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2024. Cedwir pob hawl.