Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Aeth dyn o Ben-y-bont ar Ogwr ar sbri fwrgleriaethau ym Mhen-y-bont ar Ogwr cyn cael ei ddal gan swyddogion ar batrôl.
Cafodd John Jones, 37 oed, ei arestio yn ystod oriau mân fore Gwener, 14 Mawrth yn ardal Wildmill, Pen-y-bont ar Ogwr.
Cafodd ei ddal ag eiddo yn ei feddiant yr oedd wedi'i ddwyn o dai ychydig funudau cyn hynny.
Ychydig ar ôl hanner nos ar 14 Mawrth, aeth i mewn i dŷ yn y Llidiart drwy ffenestr cegin.
Clywodd y preswylydd – sy'n ddyn oedrannus – sŵn o'r llawr gwaelod, a chafodd fraw wrth ddod wyneb yn wyneb â John Jones yn ei ystafell fyw.
Gadawodd Jones y tŷ a chysylltodd y preswylydd â Heddlu De Cymru.
Aeth swyddogion i'r ardal ac o fewn munudau, gwelsant Jones yn Wildmill a'i arestio.
Roedd yn reidio beic yr oedd wedi'i ddwyn oriau cyn hynny, ac roedd hefyd yn cario ffonau symudol, gwefrwyr, ac oriawr, i gyd wedi cael eu dwyn.
Deffrodd pobl drannoeth i weld ei fod wedi targedu neu dorri i mewn i'w cartrefi dros nos.
Cysylltodd perchennog y beic y gwelwyd Jones yn ei reidio â'r heddlu er mwyn rhoi gwybod ei fod wedi'i ddwyn, ar ôl sylwi ei fod wedi mynd o'i garej.
Hefyd, cafodd yr heddlu alwadau gan breswylwyr pryderus a oedd wedi dal Jones ar eu camerâu clychau drws yn ceisio mynd i mewn i'w tai.
Cafodd John Jones o Heol Pandy, Llangeinwyr, ei gyhuddo, a phlediodd yn euog i dair bwrgleriaeth a dau ymgais i fwrgleriaeth. Cafodd ei garcharu am 60 mis yn Llys y Goron Caerdydd ar 30 Mai.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Aled John:
“Mae John Jones yn droseddwr cyson ac roedd am gyflawni cymaint o fwrgleriaethau ag y gallai y noson honno.
“Heb ddewrder y dioddefwr oedrannus, gallai fod wedi mynd ymlaen i gyflawni llawer mwy ohonynt.
“Mae dioddef bwrgleriaeth yn brofiad trawmatig ac nid oedd John Jones yn poeni dim am yr effaith y mae ei droseddau yn ei chael ar bobl eraill.
“Mae gan bobl yr hawl i deimlo'n ddiogel yn eu cartrefi, ac mae John Jones yn haeddu bod yn y carchar lle nad yw'n fygythiad mwyach.”
GWYLIO: Cafodd John Jones ei ddal gan gamera cloch drws yn gweld a oedd drws heb ei gloi.