Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd Ashley Corbin, 20 oed o Fryste, a bachgen 17 oed, hefyd o Fryste na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol oherwydd ei oedran, yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd yfory (dydd Iau, 19 Mehefin).
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i achos o saethu a ddigwyddodd yng Nghlos y Ffynnon, Pontprennau, Caerdydd, tua 8pm nos Sadwrn, 7 Mehefin.
Cafodd bachgen 15 oed ei saethu, ond yn ffodus ni chafodd anafiadau a oedd yn peryglu ei fywyd.
Mae dau unigolyn wedi cael eu cyhuddo a byddant yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd yfory (dydd Iau, 19 Mehefin).
Mae Ashley Corbin, 20 oed o Fryste, a bachgen 17 oed, hefyd o Fryste na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol oherwydd ei oedran, wedi cael eu cyhuddo o ddwy drosedd:
Cawsant eu harestio yn ardal Bryste ddydd Llun, 16 Mehefin.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Mark O’Shea o Heddlu De Cymru:
“Mae hwn wedi bod, ac yn parhau i fod, yn ymchwiliad cymhleth dan arweiniad Tîm Ymchwilio i Droseddau Mawr Heddlu De Cymru.
“Rydym wedi defnyddio pob ditectif sydd ar gael yn yr achos hwn, er mwyn sicrhau ymateb plismona cadarn sy'n adlewyrchu ein penderfyniad i weithio'n ddiflino i fynd ar ôl unrhyw un sy'n dewis dod ag arfau tanio i'n cymunedau.
“Yn ystod yr ymchwiliad, rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda Heddlu Avon a Gwlad yr Haf sydd wedi arwain at nifer o arestiadau.
“Nawr bod dau unigolyn wedi cael eu cyhuddo, gallwn hefyd gadarnhau bod pedwar unigolyn arall wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
“Am resymau gweithredol sensitif, nid ydym wedi gallu cyhoeddi'r wybodaeth hon hyd nawr.
“Hoffwn ddiolch i aelodau cymuned Caerdydd am eu dealltwriaeth barhaus a'r cymorth a roddwyd i'n ditectifs.
“Mae gwybodaeth werthfawr gan y gymuned wedi cyfrannu at y cynnydd sylweddol rydym wedi'i wneud ers y digwyddiad hwn.
“Mae aelodau teulu'r dioddefwr wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau, ac maent yn parhau i gael eu cefnogi.”
Mae tri unigolyn arall a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ar fechnïaeth tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal i faterion nad ydynt yn gysylltiedig â'r digwyddiad.
Mae'r rhain yn cynnwys menyw 18 oed o Gasnewydd, dyn 18 oed o Gaerdydd, a dyn 22 oed o Gasnewydd.
Mae dyn 22 oed o Fryste wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth mewn perthynas â'r achos o saethu.
Mae swyddogion yn parhau i apelio am wybodaeth ac yn apelio at fodurwyr a oedd yn gyrru yn yr ardal ar adeg y digwyddiad.
Gofynnir i unrhyw un a oedd yn teithio drwy Bontprennau neu Bentwyn, a allai fod wedi defnyddio Church Road neu'r A4232 (ffordd gyswllt Pentwyn) rhwng 7pm a 7.50pm nos Sadwrn, 7 Mehefin, gyflwyno deunydd camera dashfwrdd.
Gellir cyflwyno unrhyw wybodaeth a deunydd fideo ar-lein yma: https://mipp.police.uk/operation/62SWP25C11-PO1
Fel arall, cysylltwch â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu 2500180055.
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
📧 E-bost [email protected]
📞 101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.