Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd Heddlu De Cymru alwad am tua 8pm ddydd Sadwrn, 7 Mehefin, yn rhoi gwybod am achos o saethu ym Mhontprennau, Caerdydd.
Aeth swyddogion i dŷ yng Nghlos y Ffynnon a chafodd bachgen 15 oed ei gludo i'r ysbyty.
Yn ffodus, nid yw ei anafiadau'n peryglu ei fywyd.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Mark O'Shea, o Heddlu De Cymru: "Rydym yn deall y pryder y bydd y digwyddiad hwn yn ei achosi, a hoffwn roi sicrwydd i'r gymuned leol fod timau o dditectifs a staff arbenigol yn gweithio'n ddiwyd i greu darlun cyflawn o ddigwyddiadau nos Sadwrn."
Mae ymholiadau helaeth yn parhau, a bydd presenoldeb yr heddlu yn amlwg yn yr ardal wrth i swyddogion barhau â'r ymchwiliad.
Gellir cyflwyno gwybodaeth a deunydd fideo ar-lein yma:
https://mipp.police.uk/operation/62SWP25C11-PO1
Fel arall, gall unrhyw un sydd â gwybodaeth hefyd gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu 2500180055.
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻Cysylltwch â ni drwy https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
📞 101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.