Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymosododd Dean Bradley, 36 oed o Gastell-nedd yn rhywiol ar ei ddioddefwr dros gyfnod o flwyddyn. Cafodd y dioddefwr y nerth i ddatgelu'r cam-drin erchyll i aelod o'r teulu ar ddiwedd y llynedd.
Ar ôl newid ei ble o ddieuog i euog, cafwyd Bradley yn euog o dri achos o ymosod ar blentyn o dan 13 oed drwy dreiddio, a thri achos o achosi i blentyn o dan 13 oed wylio/edrych ar lun o weithgarwch rhywiol.
Cafodd Bradley ei ddedfrydu ddydd Llun 23 Mehefin 2025 yn Llys y Goron Abertawe i 12 mlynedd ac 8 mis yn y carchar, a bydd ar y gofrestr troseddwyr rhyw am oes. Bydd hefyd yn destun Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol ac yn destun Gorchymyn Atal.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl James Carver: “Cyflawnodd Dean Bradley ymosodiad erchyll ar blentyn diamddiffyn.
Rydym yn canmol dewrder y dioddefwr i godi ei lais, ar ôl byw gyda'r profiad ofnadwy hwn. Rydym yn gobeithio na fydd yn rhaid iddo ofni Dean Bradley mwyach.”