Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Llun o Omar Karshe yn nalfa'r heddlu.
Ef yw'r diweddaraf i gael ei ganfod yn euog yn dilyn ymgyrch atal dwyn o siopau ledled Caerdydd
Cafodd siopleidr a oedd yn defnyddio cyllell ei garcharu yn Llys y Goron Casnewydd yn gynharach heddiw.
Roedd Omar Karshe, 44 oed o Spencer Street, Cathays, wedi pledio'n euog i achos o ladrata a bod â chyllell yn ei feddiant mewn man cyhoeddus, yn dilyn digwyddiad ar City Road ym mis Rhagfyr.
Cerddodd Karshe i mewn i siop Tesco Express ar City Road gyda bag siopa gwag. Rhoddodd cwsmer wybod i'r swyddog gwarchod yn y siop amdano am ei bod yn credu ei fod yn dwyn o'r siop. Pan aeth y swyddog ato, rhedodd Karshe i gefn y siop. Ar ôl sylweddoli bod yr allanfa wedi'i blocio, tynnodd gyllell allan o'i boced a rhuthrodd at y swyddog gwarchod, gan fynd yn agos iawn at ei wyneb cyn rhedeg allan o'r siop gyda nwyddau ymolchi wedi'u dwyn.
Cafodd y digwyddiad cyfan ei ddal ar deledu cylch cyfyng, a oedd yn allweddol i ymchwiliad yr heddlu, am i dechnoleg adnabod wynebau ôl-weithredol gael ei defnyddio i adnabod y lleidr.
Cafodd ei arestio yn fuan wedyn, ac wrth chwilio ei gyfeiriad, daeth swyddogion o hyd i'r dillad yr oedd yn eu gwisgo ar ddiwrnod y lladrad.
Aeth ymlaen i bledio'n euog i achos o ladrata a bod â chyllell yn ei feddiant mewn man cyhoeddus, a chafodd ei garcharu am dair blynedd a naw mis yn Llys y Goron Caerdydd ar 11 Mehefin.
Dyma'r euogfarn ddiweddaraf yn dilyn dull gweithredu ehangach newydd o fynd i'r afael â dwyn o siopau gan heddlu Caerdydd a'r Fro.
Ar 30 Mawrth, cafodd Christopher Storer o Caernarvon Way, Trowbridge, ei garcharu am fwy na 40 o droseddau yn ymwneud â dwyn o siopau ledled Caerdydd.
Hefyd ym mis Mawrth, cafodd siopleidr cyson Nathan Cambell o Dyfrig House, Glan yr Afon, ei garcharu am 32 wythnos ar ôl cael ei ganfod yn euog o 19 o achosion o ddwyn o siopau. Ar 13 Mawrth, cerddodd y siopleidr i mewn i Home Bargains ar Heol y Bont-faen pan oedd swyddog eisoes yn y siop, yn gwylio deunydd teledu cylch cyfyng o Cambell yn cyflawni troseddau diweddar. Rhedodd allan o'r siop ond aeth y swyddog ar ei ôl, a chafodd ei arestio.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl James Balchin: “Rydym wedi bod yn cyfarfod â manwerthwyr a busnesau i wella'r broses o rannu gwybodaeth a chudd-wybodaeth yn ogystal ag arestio troseddwyr cyson sy'n elwa o ladrata o siopau.
“Rhoddwyd yr ymgyrch ar waith fel ymateb i'r cynnydd mewn lladrata o siopau a gobeithio bod euogfarnau fel hyn yn helpu i wella ymddiriedaeth a hyder o fewn ein cymunedau busnes.”