Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Mae Heddlu De Cymru yn adrodd straeon am gam-drin domestig a thrais yn erbyn menywod a merched drwy lygaid ei swyddogion, wrth iddo lansio ei ymgyrch ddiweddaraf – Ni’n Gweld.
Mae'r ymgyrch hon yn dilyn ymlaen o ymgyrch ‘Gweld Fi’ yr heddlu, a lansiwyd ym mis Awst 2024. Nod Ni’n Gweld yw annog dioddefwyr trais yn erbyn menywod a merched i ddod ymlaen a rhoi gwybod i ni.
Mae swyddogion o bob rhan o'r heddlu wedi rhannu'r hyn y maent yn ei weld yn y gobaith y bydd dioddefwyr posibl yn adnabod patrymau cam-drin ac yn mynd ati i geisio cymorth neu roi gwybod i'r heddlu.
Gan ddefnyddio asedau digidol, mae'r ymgyrch hefyd yn cynnig cyngor ar roi gwybod am droseddau a sut y bydd y broses yn gweithio, yn y gobaith o rymuso dioddefwyr i gysylltu â'r heddlu.
Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, Joanna Maal:
“Drwy ddefnyddio lleisiau ein swyddogion sy'n delio â throseddau yn ymwneud â thrais yn erbyn menywod a merched, ein gobaith yw helpu dioddefwyr i ddeall nad yw'r hyn y maent yn ei wynebu yn iawn.
“Mae ein swyddogion yn gweithio'n ddiflino i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, ac mae'n flaenoriaeth hirdymor i Heddlu De Cymru.
“Rydym yn cydnabod bod pryderon am ddiogelwch personol a thrais mor gyffredin ag erioed.
“Rydym yn gweld maint ac effaith trais yn erbyn menywod a merched bob dydd ac rydym am dynnu sylw at y materion, rhannu gwybodaeth â'n cymunedau, annog menywod a merched i roi gwybod am ymddygiadau ymosodol neu gael cymorth, ac annog y rhai sy'n gweld ymddygiadau ymosodol i dynnu sylw atynt a'u herio.”
Mae ymgyrch ‘Gweld Fi’ yr heddlu yn tynnu sylw at brofiadau bywyd menywod a merched ledled De Cymru er mwyn codi ymwybyddiaeth ac annog dioddefwyr i adnabod yr arwyddion a rhoi gwybod i'r heddlu.
I roi gwybod i'r heddlu, ceisio cymorth neu gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch, ewch i: Ni'n Gweld.