Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi cael ei garcharu ar ôl cnoi ei fab, sy'n oedolyn, a'i daro gyda'i ffon gerdded yn dilyn pryd o fwyd gyda'i deulu.
Cyflawnodd Anthony O'Connell, 58 oed, heb gartref sefydlog, y drosedd ym mis Mai 2024. Ychydig wythnosau yn ddiweddarach, cyflawnodd drosedd arall, sef achos o ladrad, a chafodd ddedfryd estynedig o saith mlynedd am y drosedd honno.
Ar ôl pledio'n euog i achosi niwed corfforol gwirioneddol i'w fab, mae bellach wedi cael ei ddedfrydu i ddwy flynedd a phedwar mis yn y carchar, i gyd-redeg â'i ddedfryd estynedig.
Dywedodd y Rhingyll Kelly Richards:
“Roedd Anthony O'Connell yn droseddwr mynych a bydd hynny wedi bod yn arbennig o drawmatig i'w deulu.
“Mae'r ffaith bod yr achos hwn wedi digwydd pan oedd plant y dioddefwr – sef wyrion Anthony O'Connell – yn bresennol, yn ei wneud yn fwy annerbyniol byth.
“Bydd anafiadau'r dioddefwr wedi bod yn gorfforol ac yn emosiynol. Rydym yn gobeithio y bydd yn gallu gwella ym mhob ffordd yn dilyn gweithredoedd Anthony O'Connell.”