Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu ar ôl iddo gyflawni amrywiaeth o droseddau moduro.
Cyflawnodd James Osmond, sy'n 25 oed o Gwmdu, nifer o droseddau yn ardal Abertawe rhwng 13 a 30 o Ionawr eleni. Roedd y troseddau yn cynnwys tri achos o yrru'n beryglus ac un achos o ddefnyddio cerbyd modur heb yswiriant trydydd parti.
Ar ôl pledio'n ddieuog i ddechrau i droseddau gyrru'n beryglus, newidiodd Osmond ei ble i euog ym mis Mehefin.
Mae wedi cael ei ddedfrydu i dair blynedd yn y carchar ac wedi cael ei wahardd rhag dal neu gael trwydded yrru am bedair blynedd a chwe mis.
Dywedodd Cwnstabl yr Heddlu Ceriann Howell:
"Yn anffodus mae James Osmond yn unigolyn sy'n credu nad yw cyfreithiau'r ffyrdd yn berthnasol iddo.
"Roedd yn gyrru mewn ffordd oedd yn beryglus i ddefnyddwyr eraill y ffyrdd a gallai fod wedi arwain at anaf difrifol i'w hun neu i eraill.
"Mae ei gyfnod yn y carchar a'r ffaith ei fod wedi colli ei drwydded yrru, yn golygu bod y ffyrdd nawr yn fwy diogel hebddo."