Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 28 oed o Donysguboriau wedi cael ei ddedfrydu heddiw am ymgais i lofruddio a naw trosedd arall yn dilyn ymosodiad treisgar yng Ngorsaf Heddlu Tonysguboriau ddydd Gwener 31 Ionawr.
Heddiw, 13 Mehefin, ymddangosodd Alexander Dighton gerbron y Llys Troseddol Canolog lle cafodd ddedfryd o garchar am oes o leiaf 22 mlynedd a 235 diwrnod ar ôl i'r llys gadarnhau bod y digwyddiad yn gysylltiedig â therfysgaeth.
Ar noson 31 Ionawr, cafodd Dighton ei weld ar CCTV yn cyrraedd ar draws y stryd o Orsaf Heddlu Tonysguboriau yn cario polyn pren hir a bag cefn mawr a oedd yn cynnwys bwyell, tanwydd, a thuniau tybaco. Yna, ceisiodd losgi cerbydau'r heddlu.
Ar ôl cynnau tân bach o dan fan yr heddlu, defnyddiodd Dighton y polyn pren i ddifrodi'r cerbyd drwy dorri'r ffenestri cyn troi ei sylw at gar arall yr heddlu wedi'i farcio. Cyrhaeddodd swyddogion yr heddlu a'i orchymyn i ollwng yr arf. Aeth tuag at gyntedd yr orsaf ac ymosododd ar swyddog.
Ymosododd ar ail swyddog, ac er gwaethaf ei ymdrech i'w atal, trywanodd drydydd swyddog yn ei goes gyda chyllell. Arestiodd y swyddogion Dighton, y canfuwyd ei fod yn gwisgo arfwisg corff.
Yn dilyn adolygiad o'r digwyddiad, arweiniodd Plismona Gwrthderfysgaeth Cymru yr ymchwiliad gan weithio'n agos gyda Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Erlyn y Goron, a awdurdododd y cyhuddiadau.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Leanne Williams, o Blismona Gwrthderfysgaeth Cymru:
“Rydym yn croesawu'r canlyniad yn y llys heddiw.
“Bob dydd, mae swyddogion yr heddlu ar hyd a lled y wlad yn rhoi eu diogelwch eu hunain mewn perygl ar ran y cyhoedd. Maent yn camu i mewn i sefyllfaoedd ansicr a pheryglus yn rheolaidd, a gall y sefyllfaoedd hyn beryglu bywyd yn aml. Nid oedd hyn yn eithriad, ac mae'n rhaid i mi gydnabod gweithredoedd dewr a phenderfynol y swyddogion y noson honno a weithredodd i reoli'r bygythiad sylweddol a oedd yn eu hwynebu, a'r cyhoedd ehangach yn y pen draw, o ganlyniad i Dighton.
“Dangosodd ein hymchwiliadau fod gan Dighton safbwyntiau gwrth-lywodraeth, gwrth-Islam a gwrth-mewnfudo cryf. Roedd yn amlwg yn casáu ein cymdeithas a phenderfynodd ei fod am wneud safiad. Credwn fod ei gredoau a'i feddylfryd gwyrdröedig yn cyfiawnhau'r ymosodiad ar swyddogion yr heddlu y dyddiad yma, am ei fod yn hystyried fel cynrychioli'r wladwriaeth. Bydd Plismona Gwrthderfysgaeth ynghyd â'r maes plismona ehangach yn gyffredinol, yn cymryd camau diflino a dyfal i fynd ar drywydd unrhyw un sy'n gweithredu mewn ffordd i danseilio ein democratiaeth a'n ffordd o fyw, ac yn sicrhau y caiff yr unigolion hyn eu dwyn i gyfrif am eu gweithredoedd.”
Dywedodd y comander plismona lleol, y Prif Uwch-arolygydd, Stephen Jones:
“Hoffwn ddiolch o galon i'n swyddogion am eu dewrder a'u proffesiynoldeb y diwrnod hwnnw. Rydym yn eu gwerthfawrogi'n fawr.
“Mae'r ymosodiad ar ein swyddogion yn dangos natur anrhagweladwy a pheryglus gwaith yr heddlu, a'r effaith y mae digwyddiadau fel hyn yn ei chael ar swyddogion, eu teuluoedd a'r gymuned. Yn ogystal â bod yn was cyhoeddus, mae pob swyddog hefyd yn ŵr, yn wraig neu'n rhiant a bydd digwyddiadau fel y rhain, y mae swyddogion yn eu hwynebu bob dydd, yn siŵr o gael effaith sylweddol ar eu teuluoedd.
“Rwyf hefyd am gydnabod ymrwymiad diwyro'r ditectifs drwy gydol yr ymchwiliad a oedd hefyd yn ganmoladwy.
“Mae enw da Tonysguboriau fel lle tawel a diogel yn gwneud y digwyddiad hwn hyd yn oed yn fwy syfrdanol, gan ein hatgoffa i gyd o'r risgiau annisgwyl a'r ffaith bod unigolion fel Alexander Dighton yn byw yn ein cymunedau.”
Dywedodd Frank Ferguson, o wasanaeth Erlyn y Goron:
“Roedd Alexander Dighton eisiau ymosod ar y llywodraeth a'r wladwriaeth.
“Cyfaddefodd ei fod am ladd un o swyddogion yr heddlu, achosi difrod ac arllwys gwaed. Gallem ddangos bod Dighton, nid yn unig wedi rhagfyfyrio ar ei ymosodiad a'i gynllunio'n fanwl, ond bod ei gymhellion hefyd yn gysylltiedig â therfysgaeth.
“Er nad yw meddu ar safbwyntiau eithafol neu dramgwyddus yn drosedd, mae'n drosedd ymosod ar swyddogion yr heddlu a cheisio eu llofruddio, ac nid oedd ganddo unrhyw opsiwn ond cyfaddef iddo wneud hyn.
“Plediodd yn euog, ac mae ei ddedfryd heddiw yn adlewyrchu difrifoldeb ei weithredoedd.”