Stamp amser presennol: 23/06/26 09:47:21
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police force crest / Arwyddlun Heddlu De Cymru

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio am berson sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Aelodau o grŵp troseddau cyfundrefnol yn cael eu dedfrydu i gyfanswm o 38 mlynedd a 6 mis am Fewnforio a Chyflenwi Cyffuriau Dosbarth B

Cynnwys y prif erthygl

Caerdydd/Bro Morgannwg RhCT/Merthyr/Pen-y-bont ar Ogwr Y diweddaraf
Cyhoeddwyd: 12:54 11/09/2025

Mae 10 aelod o grŵp troseddau cyfundrefnol wedi cael eu dedfrydu yn dilyn ymchwiliad rhagweithiol dan arweiniad Tarian, yr Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol ar gyfer de Cymru.

Sefydlodd Tarian Ymgyrch Flueggea, gan gydweithio â Heddlu Ffiniau'r DU, y Post Brenhinol, a phartneriaid rhyngwladol, i darfu ar grŵp troseddau cyfundrefnol soffistigedig a oedd yn gweithredu yn ardal Caerdydd.

Roedd y grŵp, a oedd yn cael ei arwain gan Abubakr Khawar, yn gyfrifol am fewnforio symiau sylweddol o ganabis o'r Unol Daleithiau i'r Deyrnas Unedig, gan ddefnyddio gwasanaethau dosbarthu parseli i guddio a dosbarthu'r sylweddau anghyfreithlon.

Nododd swyddogion bod y llwythi canabis yn cael eu ffugio fel eitemau megis dillad, décor cartref a theganau, a'u hanfon drwy rwydweithiau parseli dilys i nifer o gyfeiriadau preswyl yn ardal De Cymru. Cafodd preswyliaid y cyfeiriadau hyn eu recriwtio gan y grŵp i dderbyn y parseli ar ei ran am swm enwol, fel arfer rhwng £50 a £200 am bob parsel.

Cannabis from parcels.png

Ers i Ymgyrch Flueggea ddechrau ym mis Tachwedd 2020, mae swyddogion wedi cysylltu'r grŵp â'r canlynol:

  • 329kg o ganabis (â gwerth stryd o £11 miliwn) â thystiolaeth a oedd yn awgrymu mai dim ond cyfran o gyfanswm yr hyn a gafodd ei fewnforio oedd hyn; a
  • Dros 80 o eiddo yn Ne Cymru a oedd yn cael eu defnyddio fel cyfeiriadau dosbarthu ar gyfer y llwythi anghyfreithlon.

Daeth swyddogion hefyd o hyd i £120,000 o arian parod a £21,000 mewn cryptoarian a'u hatafaelu.

Ar 9 Rhagfyr 2024, gweithredodd Tarian nifer o warantau i arestio'r sawl a oedd yn ymwneud â'r grŵp gyda chymorth Heddlu De Cymru a'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.

O ganlyniad i gryfder y dystiolaeth, plediodd saith unigolyn yn euog o Gynllwynio i Gyflenwi Cyffuriau Dosbarth B a Reolir a Chynllwynio i Fewnforio Canabis cyn y treial.

Ar 10 a 11 Medi, cafodd yr unigolion eu dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd. Rhoddwyd y dedfrydau canlynol:

Plediodd Abubakr Khawar, 28 oed o Lan yr Afon, Caerdydd, yn euog ar 19 Mawrth 2025. Mae wedi cael ei ddedfrydu i 8 blynedd yn y carchar.

Abubakr KHAWAR 1.png
Abubakr Khawar

 

Plediodd Mohammed Nurul Hussain, 28 oed o Gaerdydd, yn euog i Gynllwynio i Gyflenwi Cyffuriau Dosbarth B a Reolir ar 19 Mawrth 2025. Ar 5 Mehefin 2025, newidiodd ei ble i euog tra ar dreial am Gynllwynio i Fewnforio Canabis. Mae wedi cael ei ddedfrydu i 6 mlynedd yn y carchar.

Mohammed Nurul HUSSAIN 1.png
Mohammed Nurul Hussain

 

Plediodd Abdu Huriara Husain, 29 oed o Lecwydd, Caerdydd, yn euog i Gynllwynio i Gyflenwi Cyffuriau Dosbarth B a Reolir ar 23 Mai 2025. Ar 5 Mehefin 2025, newidiodd ei ble i euog tra ar dreial am Gynllwynio i Fewnforio Canabis. Mae wedi cael ei ddedfrydu i 6 mlynedd yn y carchar.

Abdu Huriara HUSAIN 1.png
Abdu Huriara Husain

 

Plediodd Sophie Jones, 33 oed o'r Sblot, Caerdydd, yn euog ar 23 Mai 2025. Caiff hi ei dedfrydu yn ddiweddarach.

Plediodd Daniel Marshall, 40 oed o Dreharris, Merthyr Tudful, yn euog ar 4 Ebrill 2025. Mae wedi cael ei ddedfrydu i 32 mis yn y carchar.

Daniel MARSHALL 1.png
Daniel Marshall

 

Cafwyd Sean William Montgomery, 24 oed o Dredelerch, Caerdydd, yn euog o'r ddwy drosedd ar 11 Mehefin 2025. Mae wedi cael ei ddedfrydu i 3 blynedd a 6 mis yn y carchar.

Sean MONTGOMERY 1.png
Sean William Montgomery

 

Plediodd Andrew David Pethers, 36 oed o Laneirwg, Caerdydd, yn euog ar 13 Mai 2025. Mae wedi cael ei ddedfrydu i 3 blynedd yn y carchar.

Andrew PETHERS 1.png
Andrew David Pethers

 

Plediodd Kyle Joshua Solowyk, 29 oed o'r Barri, yn euog ar 23 Mai 2025. Mae wedi cael ei ddedfrydu i 34 mis yn y carchar.

Kyle SOLOWYK 1.png
Kyle Joshua Solowyk

 

Plediodd Keiron Jones, 29 oed o'r Eglwys Newydd, Caerdydd, yn euog ar 1 Mai 2025. Mae wedi cael ei ddedfrydu i 26 mis yn y carchar.

Ceiron JONES 1.png
Keiron Jones

 

Plediodd Solomon Bertram, 36 oed o Lanisien, Caerdydd, yn euog ar 19 Mawrth 2025. Mae wedi cael ei ddedfrydu i 22 mis yn y carchar.

Solomon BERTRAM 1.png
Solomon Bertram

 

Cafwyd Steven Munroe, 45 oed o Lan yr Afon, Caerdydd, yn euog o'r ddwy drosedd ar 11 Mehefin 2025. Mae wedi cael ei ddedfrydu i 32 mis yn y carchar.

Steven MUNROE 1.png
Steven Munroe

 

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Sean Meyrick o Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian:

“Mae'r ddedfryd heddiw yn dod ag ymchwiliad hir a chymhleth a oedd yn cynnwys nifer o asiantaethau gorfodi'r gyfraith a phartneriaid ac a arweiniodd at aflonyddu ar grŵp troseddau cyfundrefnol soffistigedig i ben.
“Dangosodd y grŵp hwn alluedd ariannol i amsugno colledion â gwerth miliynau o bunnoedd, sy'n nodi cwmpas ymgyrch y grŵp a gwydnwch ei ffrydiau cyllid. Roedd cyflawni'r troseddau hyn wedi rhoi pleser i'r 11 o'r unigolion hyn wrth iddynt wneud elw o'r niwed y gwnaethant ei achosi i eraill.
“Rwyf yn falch â'r dedfrydau a gafodd eu cyflwyno heddiw ac yn gobeithio eu bod yn rhybudd i eraill. Hoffwn ddiolch i'n partneriaid, yn enwedig Heddlu Ffiniau'r DU a'r Post Brenhinol, am eu help gyda'r ymchwiliad hwn.
“Byddwn hefyd yn atgoffa unrhyw un y mae unigolion wedi'i dargedu i dderbyn parseli ar eu rhan am arian i ystyried goblygiadau hyn. Gall derbyn nwyddau anghyfreithlon ar ran person arall olygu y cewch eich erlyn am droseddau. Nid yw honni nad ydych yn ymwybodol o gynnwys y parsel yn esgus.
“Mae'r unigolion a dderbyniodd barseli yn ystod Operation Flueggea wedi wynebu canlyniadau sy'n amrywio o gyhuddiadau troseddol a cholli swyddi, i ddirwyon a chael eu gwahardd o'u cyrsiau addysgol.
“Byddwn yn annog unrhyw un sydd wedi cael cynnig o'r fath i roi gwybod amdano i'w heddlu lleol drwy ffonio 101, neu'n ddienw drwy Crimestoppers ar 0800 555 111."

Dywedodd Jenny Hopkins o Wasanaeth Erlyn y Goron:

“Roedd y grŵp hwn yn hynod gyfundrefnol ac yn soffistigedig yn droseddol.
“Roedd yr aelodau'n trefnu ac yn rheoli dosbarthiadau trawsatlantig i tua 80 o eiddo yn y DU ac yna yn defnyddio rhwydwaith ddosbarthu sylweddol i symud y cyffuriau.
“Gwnaethant geisio osgoi cymryd cyfrifoldeb am eu troseddau drwy wneud newidiadau rheolaidd i'r patrymau dosbarthu, ond cawsant eu dal o hyd.
“Cyflwynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron achos cryf o'r dystiolaeth, a arweiniodd at yr euogfarnau hyn.
“Mae'r achos hwn yn dangos ymrwymiad Gwasanaeth Erlyn y Goron a phartneriaid gorfodi'r gyfraith i amharu ar gadwyni cyflenwi a dwyn y rhai sy'n ymwneud â throseddau cyfundrefnol difrifol i gyfrif."

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Gwasanaethau partner
  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.