Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi cael ei gyhuddo ar ôl i ddyn oedrannus golli miloedd o bunnoedd ar ôl cael ei dwyllo gan unigolyn a oedd yn esgus bod yn swyddog heddlu.
Yr wythnos diwethaf, anogwyd y cyhoedd i fod yn wyliadwrus ar ôl i £16k gael ei ddwyn o gartref dyn 80 oed yn ardal Glan yr Afon, Caerdydd.
Cafwyd adroddiad am ail achos tebyg yn ymwneud â dyn 78 oed o Laneirwg ddydd Llun.
Mae Nawaf Abdullahi, 20 oed o Islington, Llundain, wedi cael ei gyhuddo mewn cysylltiad â'r ddau ddigwyddiad.
Ymddangosodd Abdullahi gerbron Llys Ynadon Caerdydd ddoe (ddydd Iau 11 Medi) wedi'i gyhuddo o ddau achos o gynllwynio i gyflawni twyll drwy ymhoniad anwir a chymryd rhan mewn gweithgareddau troseddol grŵp troseddau cyfundrefnol.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa ar gyfer gwrandawiad arall yn Llys y Goron Caerdydd fis nesaf.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Tom Moore o Heddlu De Cymru: “Mae'r ymchwiliad hwn yn tynnu sylw at ein hymrwymiad i ddiogelu pobl sy'n agored i niwed rhag twyll.
“Fel bob amser, rydym yn annog pobl i fod yn wyliadwrus, i edrych allan am anwyliaid sy'n agored i niwed ac i roi gwybod am ddigwyddiadau i'r heddlu.”
Ni fydd swyddogion heddlu dilys fyth yn anfon cludwr i'ch cartref i gasglu arian parod, cardiau banc, nac unrhyw nwyddau gwerthfawr eraill.
Ni fydd swyddogion heddlu dilys fyth yn gofyn i chi gymryd rhan mewn ymchwiliad sy'n gofyn i chi godi arian parod o'ch banc.
Rhowch wybod am unrhyw ddigwyddiadau i'r heddlu.
💻 Rhoi gwybod ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio
📞 101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.