Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 39 oed o Ben-y-bont ar Ogwr a gurodd ei gymydog 78 oed mewn ymosodiad creulon a di-sail wedi cael ei garcharu.
Ymosododd Ashley Morris, o Park Street, Pen-y-bont ar Ogwr, ar ei gymydog oedrannus ar 12 Mawrth a gadawodd ef yn gorwedd mewn pwll o gwaed yn y maes parcio y tu allan i'r bloc o fflatiau ym Mracla lle roedd y ddau ohonynt yn byw.
Roedd y dioddefwr newydd fod i'w siop leol ac wedi parcio ei gar, pan aeth Morris ato a dweud wrtho am ‘wenu nawr’. Pan ofynnodd y dioddefwr beth roedd yn ei olygu, dywedodd Morris wrtho y ‘byddai'n gwneud iddo wenu nawr’, cyn ymosod yn dreisgar arno.
Pwniodd Morris ei ddioddefwr i'r llawr, gan ei ddal i lawr a pharhau i'w bwnio, gan dargedu ei ben a'i wyneb. Yna, ciciodd ef sawl gwaith tra roedd ar y llawr.
Yn waed i gyd, llwyddodd y dioddefwr i godi ar ei draed ar ôl i Morris orffen ymosod arno a gadael y lleoliad. Llwyddodd i gyrraedd tŷ perthynas gerllaw a chysylltodd â'r heddlu.
Cafodd Morris ei arestio yn ei fflat gerllaw yn fuan wedyn – aethpwyd ag ef i'r ddalfa a chafodd ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol. Cafodd ei gadw yn y ddalfa ac aeth ymlaen i bledio'n euog. Ddydd Llun, 15 Medi, cafodd ei garcharu yn Llys y Goron Caerdydd am 42 mis.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Georgina Prince:
“Ymosododd Ashley Morris yn greulon ac yn barhaus ar ei gymydog oedrannus, a hynny'n gwbl ddi-sail.
“Gadawodd ei ddioddefwr ar y llaw i farw cyn mynd yn ôl i'w fflat, fel pe na bai dim wedi digwydd. Ni fu erioed unrhyw ymdeimlad o edifeirwch.
“Mae'n unigolyn peryglus ac yn haeddu bod yn y carchar, lle na all fod yn fygythiad i eraill mwyach.
“Hoffwn ganmol y dioddefwr yn yr achos hwn a ddangosodd ddewrder eithriadol drwy gydol ei brofiad. Rwy'n gobeithio y bydd yn cael rhywfaint o gysur o wybod y bydd ei ymosodwr yn treulio cyfnod sylweddol o amser yn y carchar.”