Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 39 oed o'r Barri wedi cael ei ddedfrydu i wyth mlynedd yn y carchar, ag estyniad ychwanegol o chwe blynedd ar drwydded, am saith trosedd gan gynnwys cymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol â phlentyn, ymosodiad rhywiol drwy gyffwrdd ac ymosodiad rhywiol drwy dreiddio.
Plediodd Sean Newington yn euog a chafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ar Awst 29, 2025.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Mohammad Munir, o Heddlu De Cymru: "Hoffwn ganmol y dioddefwyr am eu dewrder yn dod atom - diolch i'r wybodaeth a gyflwynwyd ganddynt a'u cymorth, rydym wedi cael cyfiawnder. Mae wedi bod yn gyfnod trawmatig i bawb dan sylw ac rwy'n gobeithio y bydd y canlyniad yn y llys yn dod â rhywfaint o gysur i'r dioddefwyr a'u teuluoedd, y maent yn ei haeddu.”
Nid ydym byth yn diystyru pa mor anodd yw hi i oroeswyr cam-drin rhywiol siarad yn agored a rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath.
Ond rydym yn gobeithio y bydd achosion fel hyn yn rhoi sicrwydd y byddwn yn gwrando ar ddioddefwyr, yn eu trin ag urddas a pharch, ac y byddant yn cael eu cefnogi drwy'r broses farnwrol.
Os ydych chi wedi cael eich cam-drin yn rhywiol, ac nad ydych yn barod i roi gwybod amdano i'r heddlu eto, peidiwch â dioddef yn dawel. Gellir dod o hyd i gyfoeth o wybodaeth a manylion am wasanaethau cymorth yma.