Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd Martin Burnell, 38 oed o Lanrhymni, ei arestio yn dilyn ymchwiliad helaeth i gyfres o fwrgleriaethau ac achosion o geisio torri i mewn i eiddo ledled Caerdydd rhwng mis Mawrth a mis Mai eleni.
Torrodd Burnell i mewn i gartrefi tra roedd y preswylwyr yno, a byddai fel arfer yn dwyn arian parod ac eitemau gwerth uchel fel gemwaith, gan olygu bod rhai teuluoedd wedi colli eitemau o werth personol.
Ar ôl iddo gael ei gyhuddo, plediodd yn euog i saith bwrgleriaeth a dau ymgais i dorri i mewn i eiddo yn ardaloedd Cyncoed, y Rhath, Llaneirwg, y Rhymni, a Chas-bach, Casnewydd.
Yn ystod un bwrgleriaeth yn ardal Cyncoed, cafodd menyw 73 oed ei deffro a'i gorfodi i lenwi bag ag eitemau gwerthfawr yn cynnwys gemwaith, a oedd, gyda'i gilydd, yn werth tua £23,000.
Mewn datganiad i'r llys, disgrifiodd y dioddefwr y trawma yr oedd gweithredoedd Burnell wedi ei achosi.
Dywedodd:
“Mae Martin Burnell wedi newid fy mywyd am byth. Ni fyddwn am weld neb arall yn dioddef y nosweithiau di-gwsg, y gorbryder, neu'r diffyg tawelwch meddwl. Rwy'n gobeithio bod cyfiawnder wedi'i wneud, nid dim ond er fy lles i, ond er mwyn atal eraill rhag gorfod wynebu'r un profiad.”
Cafodd Burnell ei adnabod drwy archwiliad fforensig a deunydd CCTV. Pan gafodd ei arestio yn ei gartref ar 26 Mehefin, daethpwyd o hyd iddo'n cuddio y tu ôl i'r soffa yn yr ystafell fyw.
Cafodd Burnell ei ddedfrydu i naw mlynedd yn y carchar yn Llys y Goron Caerdydd ar 29 Awst.
Dywedodd y Ditectif Ringyll George Buckley o Heddlu De Cymru:
“Rydym yn croesawu dedfryd hir Burnell yn dilyn y gyfres o fwrgleriaethau a gyflawnwyd ganddo eleni.
“Mae wedi achosi llawer o boen a dioddefaint i'r dioddefwyr a'r teuluoedd hynny y mae wedi'u targedu dros y flwyddyn ddiwethaf.
“Gwnaethom weithio'n ddiflino i sicrhau'r canlyniad gorau posibl, ac rydym yn gobeithio y gall y dioddefwyr deimlo rhywfaint o dawelwch meddwl nawr bod cyfiawnder wedi'i wneud.”