Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Mae swyddogion yn annog pobl i fod yn wyliadwrus ar ôl i ddyn o Lan yr Afon, Caerdydd, golli miloedd o bunnoedd ar ôl cael ei dwyllo gan rywun a oedd yn esgus bod yn swyddog heddlu.
Cafodd swm o £16,000 ei ddwyn allan o ddwylo dioddefwr yn ei 80au, ar stepen ei ddrws ei hun, ddydd Mercher 3 Medi.
Roedd twyllwyr wedi ffonio'r dioddefwr yn gynharach y diwrnod hwnnw a'i dwyllo i feddwl mai swyddogion yr heddlu oedden nhw. Gwnaethant ddweud wrtho am godi'r arian parod cyn i rywun gyrraedd ei dŷ a chipio'r arian.
Cafodd ei ddisgrifio fel dyn Du, gyda gwallt affro canolig, a barf a oedd wedi'i gorchuddio â masg meddygol. Roedd yn gwisgo top llewys hir glas a throwsus tywyll.
Rhoddwyd gwybod i'r heddlu ddoe am ddau achos tebyg gan bobl yn y Tyllgoed a Threganna a oedd yn amheus ac a gysylltodd â Heddlu De Cymru ar ôl cael eu targedu gan dwyllwyr a oedd yn esgus bod yn swyddogion yr heddlu.
Mae swyddogion yn amau y bydd mwy o bobl yn cael eu targedu ac yn annog pobl i fod yn wyliadwrus ac i ofalu am berthnasau agored i niwed.
Anogir unrhyw un sydd gwybodaeth i gysylltu â ni – dyfynnwch y cyfeirnod 2500284326.
Mae gwybodaeth a chyngor a all helpu i'ch diogelu rhag twyllwyr ar gael yma.