Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Fore heddiw, dydd Mawrth, 23 Medi, ychydig cyn 00.40am, derbyniodd Heddlu De Cymru adroddiad am aflonyddwch yn Poets Close, Rhydyfelin.
Yn ystod y digwyddiad hwn, cafodd tri dyn yn eu hugeiniau eu hanafu ac aethpwyd â nhw i'r ysbyty. Mae un o'r dynion bellach wedi marw, ac mae'r ddau arall yn dal i fod yn yr ysbyty.
Mae dyn 30 oed o Rhydyfelin wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth a cheisio llofruddio mewn cysylltiad â'r digwyddiad. Mae dyn 22 oed o Tonteg hefyd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Hefyd, mae menyw 20 oed o Benygraig wedi cael ei harestio ar amheuaeth o glwyfo'n fwriadol Adran 18. Mae'r tri yn parhau yn nalfa'r heddlu wrth i'n hymchwiliad fynd yn ei flaen.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Paul Raikes:
“Hoffwn roi sicrwydd i'r gymuned ein bod yn gweithio'n gyflym i ymchwilio i'r mater hwn. Bydd preswylwyr yn gweld mwy o swyddogion yr heddlu yn yr ardal, ac mae ardal wedi'i hynysu ar Masefield Way, yn benodol rhwng cyffordd Poets Close a Shakespeare Rise.
"Rydym yn annog unrhyw un a all fod wedi gweld y digwyddiad hwn neu sydd ag unrhyw wybodaeth berthnasol i gysylltu â ni drwy'r linc hwn, https://mipp.police.uk/operation/62SWP25C21-PO1, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2500304909. Diolch am eich cydweithrediad a'ch dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn.”
Fel arall, gallwch gysylltu â ni drwy un o'r ffyrdd canlynol:
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.
Gellir hefyd roi gwybodaeth yn ddienw drwy ffonio Crimestoppers ar 0800 555 111, neu drwy'r ffurflen ar-lein yn: https://crimestoppers-uk.org/give-information