Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Y penwythnos diwethaf, cynhaliodd Tîm Trwyddedu Heddlu Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot Ymgyrch Nepsara – a drefnwyd ochr yn ochr â Thîm Trwyddedu Tacsis Cyngor Abertawe, sy'n sicrhau bod y gyrwyr tacsis sy'n gyrru yn yr ardal leol wedi'u trwyddedu a bod eu cerbydau yn ddiogel yn ystod cyfnod Wythnos y Glas.
Cynhaliwyd yr ymgyrch ochr yn ochr â chydweithwyr o'r tîm Ffyrdd Mwy Diogel (a oedd yn gysylltiedig â'u hymgyrch eu hunain, Ymgyrch Night Owl), yn ogystal â thimau trwyddedu tacsis awdurdodau lleol o Gyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Dinas Casnewydd, Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau a swyddogion mewnfudo.
Gyda'r nos, tynnwyd cyfanswm o 30 o gerbydau i'r ardal archwilio, a gwnaeth y Tîm Ffyrdd Mwy Diogel stopio ac archwilio 22 o gerbydau pellach ar y ffyrdd.
O'r cerbydau a wiriwyd yn yr ardal archwilio, cyhoeddwyd rhybuddion i dri thacsi am fod gwadn eu teiars yn isel a'u goleuadau'n ddiffygiol. Cyhoeddwyd Hysbysiadau Stopio i bedwar tacsi a bu'n rhaid iddynt newid eu teiars a chywiro diffygion yn y fan a'r lle cyn cael eu gadael i ailgydio yn eu gwaith tacsi. Cafodd un cerbyd ei dynnu oddi ar y ffordd am fod hongiad y cerbyd yn beryglus ac wedi torri.

Dywedodd y Rhingyll James Ponting:
“Mae sicrhau bod tacsis canol y ddinas yn ddiogel a bod ganddynt y trwyddedau gofynnol yn hollbwysig ar unrhyw adeg o'r flwyddyn, ond mae'n hynod o bwysig yn ystod digwyddiadau fel Wythnos y Glas pan fyddwn yn disgwyl mwy o bobl i ddefnyddio tacsis.
“Mae ymgyrchoedd fel Ymgyrch Nepsara yn hanfodol i sicrhau bod cwmnïau tacsis yn cydymffurfio â'r canllawiau diogelwch pwysig hyn.”
Dywedodd Andrew Williams, Aelod o'r Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol:
“Rydym yn falch o groesawu a chynnal ymgyrchoedd amlasiantaethol yma yn Abertawe. Mae'r ymgyrchoedd ar y cyd hyn yn hanfodol i sicrhau diogelwch y cyhoedd, yn enwedig yn yr economi liw nos.
“Mae'n hanfodol bod aelodau o'r cyhoedd yn gallu ymddiried yn y tacsis a'r cerbydau hurio preifat a ddefnyddiant, a bod y cerbydau a'r gyrwyr yn addas at y diben. Mae diogelu unigolion agored i niwed a galluogi teithio diogel i'n dinas ac oddi yno yn parhau i fod yn un o flaenoriaethau pennaf Cyngor Abertawe.”