Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu ar ôl cael ei ganfod yn euog o nifer o achosion o ymosodiadau rhywiol.
Cyffyrddodd Stewart Read, 71 oed o Orseinon, â dau ddioddefwr gwahanol yn fwriadol ar sawl achlysur.
Yn y pen draw, fe'i cafwyd yn euog o naw achos o gyffwrdd yn rhywiol â dioddefwr benywaidd.
Mae Read wedi cael ei ddedfrydu i bedair blynedd a hanner yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Sarah Cook:
“Mae'n amlwg bod Stewart Read yn ddyn peryglus iawn sy'n rhoi ei ddwylo ar fenywod mewn modd rhywiol heb eu cydsyniad, dro ar ôl tro.
“Cafodd bleser afiach o'r hyn roedd yn ei wneud, ac mae ei bledion dieuog yn dangos nad oes ganddo unrhyw edifeirwch o gwbl.
"Mae'n hollol briodol ei fod yn treulio nifer o flynyddoedd yn y carchar.
“Mae'r dioddefwyr wedi dangos dewrder a gwydnwch anhygoel drwy gydol y broses hon, a hoffwn ddiolch iddynt am ddod atom a helpu Heddlu De Cymru i garcharu unigolyn peryglus.”
Nid ydym byth yn diystyru pa mor anodd yw hi i oroeswyr cam-drin rhywiol siarad yn agored a rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath.
Ond rydym yn gobeithio y bydd achosion fel hyn yn rhoi sicrwydd y byddwn yn gwrando ar ddioddefwyr, yn eu trin ag urddas a pharch, ac y byddant yn cael eu cefnogi drwy'r broses farnwrol.
Os ydych chi wedi cael eich cam-drin yn rhywiol, ac nad ydych yn barod i roi gwybod amdano i'r heddlu eto, peidiwch â dioddef yn dawel. Gellir dod o hyd i gyfoeth o wybodaeth a manylion am wasanaethau cymorth yma.