Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu ar ôl pledio'n euog i droseddau rhyw yn erbyn plant.
Cyflawnodd Abdul Kadir, 54 oed o ardal Penlan, droseddau yn erbyn dau ddioddefwr a oedd yn amrywio o gyffwrdd rhywiol i dreiddio dros gyfnod o amser rhwng mis Hydref 2024 a mis Ionawr 2025.
Plediodd Kadir yn euog i bob un o'r saith cyhuddiad yn ei erbyn ar 9 Mehefin. Roedd y troseddau yn cynnwys tri achos o dreisio a phedwar achos o ymosodiad drwy gyffwrdd.
Heddiw, mae wedi cael ei ddedfrydu i 20 mlynedd yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Angharad Sanders:
“Mae Abdul Kadir yn unigolyn anfoesol a gyflawnodd rai o'r troseddau rhywiol mwyaf erchyll yn erbyn dau blentyn.
“Nid yw'n bosibl dychmygu lefel yr effaith barhaus y bydd gweithredoedd Kadir yn ei chael ar y plant a'u bywydau wrth symud ymlaen.
“Rydym yn falch na fydd ar y strydoedd mwyach i beri bygythiad i blant am flynyddoedd i ddod.”
Nid ydym byth yn diystyru pa mor anodd yw hi i oroeswyr cam-drin rhywiol siarad yn agored a rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath.
Ond rydym yn gobeithio y bydd achosion fel hyn yn rhoi sicrwydd y byddwn yn gwrando ar ddioddefwyr, yn eu trin ag urddas a pharch, ac y byddant yn cael eu cefnogi drwy'r broses farnwrol.
Os ydych chi wedi cael eich cam-drin yn rhywiol, ac nad ydych yn barod i roi gwybod amdano i'r heddlu eto, peidiwch â dioddef yn dawel. Gellir dod o hyd i gyfoeth o wybodaeth a manylion am wasanaethau cymorth yma.