Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau ddyn – un o Abertawe ac un o Gaerdydd – wedi cael eu carcharu ar ôl iddynt fynd i mewn i dŷ dieithryn, cymryd ei allweddi car a cheisio ffoi gyda'i gerbyd.
Aeth Liam Bolton, 31 oed o Dreboeth, Abertawe, a George Payne, 26 oed o Laneirwg, Caerdydd, i mewn i gyfeiriad ar Grove Road, Pontardawe ar 4 Chwefror.
Daethpwyd o hyd i'r car y gwnaethant ei ddwyn heb neb ynddo a heb yr allwedd ar Tudor Road, Treboeth.
Plediodd Bolton yn ddieuog i'r drosedd o fwrgleriaeth mewn annedd a dwyn, ond cafwyd ef yn euog ar 10 Medi. Mae wedi cael ei ddedfrydu i bedair blynedd yn y carchar.
Newidiodd Payne ei ble o ddieuog i euog am yr un cyhuddiad ym mis Gorffennaf. Cafodd ei garcharu am 30 mis.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Andy Williams:
“Troseddwyr fel Liam Bolton a George Payne yw'r math o bobl sy'n gwneud i eraill yn eu cymuned deimlo'n anniogel yn eu cartrefi eu hunain.
“Byddai gwybod bod pobl ddieithr wedi mynd i mewn i'ch cartref yn eithriadol o anodd i unrhyw un. Ond, nid yw'r ddau ddyn yn poeni dim am unrhyw un arall ond nhw eu hunain.
“Mae'n dda gweld y bydd y ddau yn treulio amser sylweddol yn y carchar o ganlyniad i'w gweithredoedd. Mae'r strydoedd yn fwy diogel heb gael y ddau yma yn aros i dargedu eu dioddefwr diniwed nesaf."