Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Bowys wedi cael ei garcharu ar ôl cam-drin plentyn yn rhywiol am ddegawd bron.
Cyflawnodd Kerry Price, 53 oed o Ystradgynlais, gyfres o droseddau yn erbyn y dioddefwr drwy gydol ei phlentyndod bron, gan ddechrau pan oedd tua phump oed hyd nes ei bod yn ei harddegau.
Cafwyd Price yn euog o bum achos o ymosod ar ferch o dan 13 oed drwy gyffwrdd, dau achos o achosi merch o dan 13 oed i ymgymryd â gweithgarwch rhywiol, tri achos o ymosodiad rhywiol ar fenyw, dau achos o greu ffotograff/ffotograff ffug anweddus o blentyn, ac un achos yr un o dynnu llun anweddus o blentyn, voyeuriaeth, a recordio llun o dan ddillad i arsylwi ar rywun arall heb gydsyniad. Cyn hyn, roedd wedi pledio'n ddieuog i bob un o'r troseddau hyn.
Mae wedi cael dedfryd estynedig o 14 mlynedd yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Stuart Sandy:
“Ni ddangosodd Kerry Price unrhyw edifeirwch am ei weithredoedd, fel y mae ei bledion dieuog yn dangos. Roedd yn meddwl y gallai osgoi cael ei ddal am yr hyn a wnaeth, ond cafodd ei brofi'n anghywir.
“Camdriniodd ei ddioddefwr am gyfnod o tua degawd, gan ddechrau pan oedd y dioddefwr yn blentyn ifanc. Mae'r hyn a wnaeth yn erchyll a bydd wedi bod yn brofiad trawmatig ac ofnadwy i'r dioddefwr a'i theulu. Dangosodd y dioddefwr a'i theulu gryfder mawr drwy roi tystiolaeth yn y treial, yn wahanol i'r diffynnydd yr oedd ei amddiffyniad, yn ôl y barnwr, ‘yn ymylu ar fod yn chwerthinllyd ar adegau’.
“Carchar yw'r lle cywir iddo, ac mae'n wych gweld ei fod wedi cael dedfryd estynedig.”
Nid ydym byth yn diystyru pa mor anodd yw hi i oroeswyr cam-drin rhywiol siarad yn agored a rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath.
Ond rydym yn gobeithio y bydd achosion fel hyn yn rhoi sicrwydd y byddwn yn gwrando ar ddioddefwyr, yn eu trin ag urddas a pharch, ac y byddant yn cael eu cefnogi drwy'r broses farnwrol.
Os ydych chi wedi cael eich cam-drin yn rhywiol, ac nad ydych yn barod i roi gwybod amdano i'r heddlu eto, peidiwch â dioddef yn dawel. Gellir dod o hyd i gyfoeth o wybodaeth a manylion am wasanaethau cymorth yma.