Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Gastell-nedd Port Talbot wedi cael ei garcharu am gyflawni gweithgarwch rhywiol â phlentyn.
Honnodd Liam Peat, 25 oed o Greunant, nad oedd yn gwybod beth oedd oedran y dioddefwr, ond dechreuodd siarad â hi drwy Snapchat pan nad oedd hi ond 13 oed.
Cafodd gyfathrach rywiol â'r dioddefwr ar ôl iddi droi'n 14 oed.
Newidiodd Peat ei ble i ddau achos o gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol â merch rhwng 13 a 15 oed o ddieuog i euog ar ddechrau ei dreial ym mis Mai.
Mae wedi cael ei ddedfrydu i 45 mis yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Annie Rees:
“Honnodd Liam Peat nad oedd yn gwybod beth oedd oedran y dioddefwr tan ddiwrnod cyntaf ei dreial. Fodd bynnag, mae newid ei ble i euog yn profi ei fod yn ymwybodol iawn o'i hoedran ac o'r ffaith bod yr hyn roedd yn ei wneud yn anghyfreithlon.
“Bydd hyn wedi achosi trawma sylweddol i'r dioddefwr a'i theulu. Gyda'r ddedfryd hon, rydym yn gobeithio y gallant ddod i delerau â'r hyn y mae Liam Peat wedi'i wneud a dechrau symud ymlaen gyda'u bywydau.”
Nid ydym byth yn diystyru pa mor anodd yw hi i oroeswyr cam-drin rhywiol siarad yn agored a rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath.
Ond rydym yn gobeithio y bydd achosion fel hyn yn rhoi sicrwydd y byddwn yn gwrando ar ddioddefwyr, yn eu trin ag urddas a pharch, ac y byddant yn cael eu cefnogi drwy'r broses farnwrol.
Os ydych chi wedi cael eich cam-drin yn rhywiol, ac nad ydych yn barod i roi gwybod amdano i'r heddlu eto, peidiwch â dioddef yn dawel. Gellir dod o hyd i gyfoeth o wybodaeth a manylion am wasanaethau cymorth yma.