Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu ar ôl pledio'n euog i ddelio mewn amrywiaeth o gyffuriau Dosbarth A a Dosbarth B.
Cafodd Oliver Nancarrow, 24 oed o Gasllwchwr ei adnabod drwy negeseuon testun wedi'u harchwilio fel rhan o ymchwiliad nad oedd yn gysylltiedig â hynny. Daethpwyd o hyd i symiau o sylweddau niferus, yn ogystal â £3,410 mewn arian parod a chwe ffôn symudol yn ystod chwiliad yng nghyfeiriad Nancarrow. Roedd dau o'r ffonau hyn yn cynnwys negeseuon yn cysylltu Nancarrow â gwerthu rhestr hir o gyffuriau.
Plediodd Nancarrow yn euog i fod â chocên, ecstasi, psilosin, cetamin, canabis, LSD ac MDMA yn ei feddiant ac ymwneud â'u cyflenwi, yn ogystal â bod ag eiddo troseddol yn ei feddiant.
Cafodd ei ddedfrydu i dair blynedd a naw mis yn y carchar.
Dywedodd y Rhingyll Luke Tucker:
“Mae Oliver Nancarrow yn ddyn ifanc arall sydd bellach wedi gwastraffu blynyddoedd o'i fywyd o ganlyniad i ymwneud â'r fasnach gyffuriau anghyfreithlon.
“Fel llawer o bobl eraill o'i flaen, ei unig gymhelliad oedd elwa'n ariannol ac nid oedd yn poeni sawl bywyd y byddai'n cael eu niweidio o ganlyniad i ddefnyddio'r cyffuriau.
“Mae bellach yn dechrau dedfryd hir o garchar.”