Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn cynnal adolygiad fforensig o lofruddiaeth Sandra Phillips yn Abertawe yn 1985.
Cafodd Sandra Phillips ei lladd pan oedd yn gweithio mewn siop rhyw ar Dillwyn Street yng nghanol y ddinas ar 14 Mehefin. Daethpwyd o hyd i'w chorff am 1.45pm.
Cynhaliwyd ymchwiliad helaeth arall i'r llofruddiaeth yn 2004 ond ymchwiliwyd i'r holl linellau ymholi heb allu datrys yr achos.
Nawr, ychydig dros 40 o flynyddoedd ers ei marwolaeth, mae adolygiad fforensig newydd yn cael ei gynnal ac mae nifer o arddangosion wedi cael eu cyflwyno ar gyfer profion fforensig.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Claire Lamerton, pennaeth uned adolygiadau Heddlu De Cymru:
“Mae Heddlu De Cymru wedi cael cryn lwyddiant yn datrys hen achosion, a ni oedd un o'r heddluoedd cyntaf yn y wlad i sefydlu tîm adolygiadau yn 1999 i gynnal adolygiadau o hen achosion heb eu datrys.
“Rydym yn gobeithio y bydd canlyniad yr adolygiad fforensig hwn yn rhoi'r cyfle i ni sicrhau cyfiawnder i deulu Sandra, sydd wedi cael gwybod am y gwaith newydd hwn.
“Er bod pedwar degawd wedi mynd heibio, rwy'n apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am farwolaeth Sandra i gysylltu â ni.”
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu cyfeirnod 2300205091.
Ffôn 101 neu 01656 869228
E-bost [email protected]
Sgwrs Fyw: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
Cysylltwch â ni drwy: https://bit.ly/SWPProvideInfo
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.