Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dros y diwrnodau diwethaf, rydym wedi cael adroddiadau am bobl yn cael eu targedu gan dwyllwyr sy'n honni eu bod o fanc y dioddefwr, o'r heddlu, neu o sefydliad swyddogol arall. ??
Fel rhan o'r sgamiau hyn, mae troseddwyr yn ceisio perswadio pobl i godi arian o'u banc, gan ddweud o bosibl fod y cyfrif wedi bod yn destun twyll. Wedyn, bydd y twyllwr yn trefnu i gludwr gasglu arian parod, cardiau banc, neu'r ddau, o gartref y dioddefwr.
Mae'r twyllwyr sy'n cyflawni'r sgamiau hyn yn argyhoeddiadol iawn yn aml, ac yn adrodd straeon a all swnio'n gredadwy. Weithiau, byddant yn dweud eu bod yn cynnal ymchwiliad cudd ac na ddylech sôn wrth unrhyw un arall am yr alwad. Mae'n bosibl hefyd y byddant yn dweud bod eich cyfrif mewn perygl os na fyddwch yn gweithredu'n gyflym.
Os byddant yn llwyddo i'ch argyhoeddi, byddant yn eich cyfarwyddo i wneud rhywbeth sy'n golygu eich bod yn rhoi eich arian iddynt. Er enghraifft, efallai y byddant yn gofyn i chi godi arian (neu arian tramor) er mwyn i'r cludwr ei gasglu fel tystiolaeth. Gallant hefyd ofyn am fanylion, fel eich PIN, dros y ffôn cyn i gludwr gasglu eich cardiau credyd neu gardiau banc.
Rydym yn parhau i gael adroddiadau am y sgam hon yn Ne Cymru. Felly, os oes gennych berthnasau hyn nad ydynt yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, cofiwch siarad â nhw am hyn. Helpwch nhw i fod yn wyliadwrus mewn perthynas â'u harian, a chofiwch eu hatgoffa na fydd y banc na'r heddlu byth yn ffonio i ofyn iddynt gadarnhau manylion personol neu fanylion banc, nac yn gofyn am eu PIN. Ni fydd y naill sefydliad na'r llall yn anfon cludwr i gasglu arian parod neu gardiau 'chwaith.
Ein cyngor: