Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cawsom ddwy alwad ar wahân neithiwr am unigolion amheus yn mynd at ferched ifanc yn eu harddegau yn ardal Rhydyfelin.
Rhoddwyd gwybod i ni am y digwyddiad cyntaf ychydig ar ôl 7.45pm neithiwr (nos Lun, 10 Mawrth). Aeth dau ddyn at ferch 14 oed ar y llwybr troed ar Morien Crescent ger y parc.
Rhoddwyd gwybod i ni am yr ail ddigwyddiad ychydig ar ôl 11.30pm neithiwr, lle aeth dau ddyn at ferch 16 oed ar yr un llwybr troed yn yr un lleoliad. Ni roddwyd gwybod am unrhyw gysylltiad corfforol.
Yn ôl y disgrifiadau, roedd y dynion yn Ddu, yn dal, gydag un yn gwisgo cot dywyll a'r llall yn gwisgo hwdi tywyll. Roedd y ddau yn gwisgo hwd.
Mae ymholiadau yn cael eu cynnal i'r ddau ddigwyddiad ar hyn o bryd, gan gynnwys ymholiadau o dŷ i dŷ a'r gwaith o adolygu deunydd camera drws o dai yn yr ardal.
Dywedodd Arolygydd y Gymdogaeth, Leigh Parfitt:
“Mae digwyddiadau o'r natur hon yn brin, a ni roddwyd gwybod am unrhyw gysylltiad corfforol, er hynny rwy'n deall y pryder y mae'r digwyddiadau hyn wedi'i achosi yng nghymuned Rhydyfelin ac ar y cyfryngau cymdeithasol yn llwyr.
“Rydym yn cymryd y digwyddiadau hyn o ddifrif ac mae swyddogion yn parhau gyda'u hymholiadau er mwyn cadarnhau'r amgylchiadau llawn.
“Rwy'n annog unrhyw un sydd â phryderon i gysylltu â ni yn uniongyrchol. Bydd mwy o swyddogion cymdogaeth yn patrolio'r ardal er mwyn rhoi sicrwydd gweledol."
Gofynnir i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth a allai helpu'r swyddogion gysylltu â ni gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2500077108.
*Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.*
Gellir hefyd roi gwybodaeth yn ddienw drwy Crimestoppers ar 0800 555 111, neu drwy'r ffurflen ar-lein yn Rhoi Gwybodaeth | Crimestoppers (crimestoppers-uk.org)