Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r heddlu sy'n chwilio am Charlene Hobbs, menyw o Gaerdydd sydd ar goll, wedi lansio ymchwiliad i lofruddiaeth.
Nid oes unrhyw un wedi gweld Charlene, 36 oed o Lan yr Afon, Caerdydd, ers mis Gorffennaf 2024.
Y tro diwethaf i Charlene gael ei gweld yn bendant oedd llun ohoni a dynnwyd ar ffôn symudol mewn eiddo yn Broadway, Adamsdown.
Mae diflaniad Charlene bellach yn cael ei drin fel llofruddiaeth ac mae elusen Crimestoppers yn cynnig gwobr hyd at £20,000 am wybodaeth a fydd yn arwain at arestio ac euogfarnu'r unigolyn neu'r unigolion sy'n gyfrifol.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Powell, o Heddlu De Cymru:
“Rydym bob amser wedi bod yn benderfynol o ddod o hyd i Charlene yn fyw a'i dychwelyd at ei theulu, ond er gwaethaf nifer uchel o ymholiadau nid oes gennym unrhyw dystiolaeth bod Charlene yn fyw. Rydym bellach yn ymchwilio i'w diflaniad fel llofruddiaeth.
“Er fy mod bob amser wedi cadw meddwl agored, mae'r diffyg tystiolaeth bod Charlene yn fyw yn golygu ein bod bellach yn trin ei diflaniad fel ymchwiliad i lofruddiaeth.
“Rydym wedi siarad â mwy na 250 o bobl, sydd naill ai'n adnabod Charlene neu sy'n dod o'r ardaloedd y gwyddom ei bod yn mynd iddynt, ac ni all neb ddweud wrthym ble mae Charlene neu a yw hi'n fyw, sydd wrth gwrs, yn rhywbeth rydym ni, ei theulu a'i ffrindiau wir am ei glywed.
“Mae llawer o'r unigolion hynny y gwnaethom siarad â nhw yn credu ei bod hi wedi marw ond does neb wedi gallu cynnig unrhyw fanylion penodol. Rydym yn gobeithio y bydd gwobr Crimestoppers yn annog pobl i feddwl.
“Rydym yn dal i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i deulu Charlene, ac rydym yn meddwl amdanynt ar yr adeg anodd hon."
Mae ditectifs a thimau chwilio arbenigol yn parhau â'u hymdrechion helaeth i ddod o hyd i Charlene ac i ddeall yr amgylchiadau pam ei bod hi ar goll.
Ychwanegodd DCI Powell:
“Rwy'n credu'n gryf o hyd mai yn y gymuned y mae'r atebion, a bod gan rywun wybodaeth allweddol a fydd yn ein helpu i ddod o hyd i Charlene.
“Rwy'n erfyn ar unrhyw unigolion sy'n meddu ar wybodaeth, ni waeth pa mor ddibwys ydyw yn eu barn nhw, i gysylltu â Heddlu De Cymru neu Crimestoppers."
Charlene mewn eiddo yn Broadway (chwith) ac yn Morrisons Local, Adamsdown (dde)
Cafodd Charlene, y mae ganddi datŵ amlwg o ddraig ar ei chefn, ei gweld ar CCTV yn Morrisons Local, Adamsdown ar 23 Gorffennaf, 2024, y diwrnod cyn i'r llun gael ei dynnu ohoni mewn eiddo yn Broadway, Adamsdown, am 6.07am ar 24 Gorffennaf, 2024. Roedd ei gwallt mewn 'bun', ac roedd yn gwisgo top tywyll heb strapiau.
Mae teulu Charlene wedi cyhoeddi'r datganiad canlynol:
“Rydym wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf gan DCI Powell bod yr ymchwiliad bellach yn ymchwiliad i lofruddiaeth, a bod Crimestoppers wedi gwneud apêl yn cynnig gwobr o £20k. Rydym yn parhau i obeithio y gellir dod o hyd i Charlene yn ddiogel ac yn iach.
“Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth Crimestoppers a'r wobr i'n helpu ni i ddod o hyd iddi, ac rydym yn gobeithio y bydd hyn yn helpu pobl i gysylltu os bydd ganddynt unrhyw wybodaeth am yr hyn sydd wedi digwydd i Charlene."
Mae dyn 45 oed a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â'r ymchwiliad yn parhau ar fechnïaeth.
Mae dyn 43 oed a menyw 38 oed wedi cael eu rhyddhau heb gyhuddiad.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am wobr Crimestoppers yma: https://crimestoppers-uk.org/news-media/news/2025/mar/20-000-reward-offered-for-information-on-murder-of-charlene-hobbs-fom-south-wales
Gellir cyflwyno gwybodaeth a deunydd fideo oddi ar ddyfeisiau fel ffonau symudol, camerâu teledu cylch cyfyng, clychau drws neu gamerâu dashfwrdd i Heddlu De Cymru drwy'r ddolen hon: https://mipp.police.uk/operation/62SWP24B95-PO1
Neu:
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.