Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae chweched person wedi cael ei gyhuddo mewn cysylltiad â llofruddiaeth Joanne Penney yn Nhanysguboriau.
Bu farw'r fenyw 40 oed ddydd Sul, 9 Mawrth, ar ôl cael ei saethu yn Llys Illtyd.
Mae Jordan Mills-Smith, 32 oed o Bentwyn, Caerdydd wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth.
Cafodd y dyn 32 oed ei arestio nos Wener (14 Mawrth) yn ardal Suffolk.
Bydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Merthyr yfory (dydd Llun 17 Medi).
Mae swyddogion cyswllt â theuluoedd wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau teulu Joanne ac yn parhau i'w cefnogi.
Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Ceri Hughes: “Mae ein tîm o dditectifs a staff arbenigol yn parhau i greu darlun o'r amgylchiadau a arweiniodd at farwolaeth drasig Joanne ac rwy'n parhau i annog unrhyw un sydd â gwybodaeth, naill ai am ei marwolaeth neu'r hyn a ddigwyddodd yn yr eiddo yn Llys Illtyd nos Sul, i gysylltu â'r heddlu – gallai'r darn lleiaf o wybodaeth fod yn hollbwysig.
“Hoffwn ddiolch i'r gymuned leol am ei chefnogaeth i'r ymchwiliad hyd yma ac i bawb sydd wedi siarad â ni ac wedi rhoi gwybodaeth."
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth neu ddeunydd fideo, fel fideo teledu cylch cyfyng neu gamera dashfwrdd, gyflwyno'r rhain ar-lein: https://mipp.police.uk/operation/62SWP25C03-PO1
Fel arall, gallwch gysylltu â ni drwy un o'r ffyrdd canlynol, gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2500075709.
Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
Ffoniwch 101
*Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng*
Gellir hefyd roi gwybodaeth yn ddienw drwy ffonio Crimestoppers ar 0800 555 111, neu drwy'r ffurflen ar-lein yn https://crimestoppers-uk.org/give-information