Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ac maent yn y ddalfa.
Mae Tîm Ymchwilio i Droseddau Mawr Heddlu De Cymru wedi lansio ymchwiliad i lofruddiaeth ar ôl darganfod corff menyw mewn cyfeiriad yn Townhill ddydd Iau, 27 Chwefror.
Cafodd Leanne Williams, 47 oed ei darganfod gan swyddogion yr heddlu yn ei chartref ar Gomer Road am tua 2pm.
Cynhaliwyd Post Mortem gan y Swyddfa Gartref yn y dyddiau a ddilynodd a nodwyd anafiadau sylweddol sy'n nodweddiadol o ymosodiad.
Mae dau ddyn wedi cael eu harestio fel rhan o'r ymchwiliad ac maent yn y ddalfa ar hyn o bryd.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Mark O’Shea:
"Mae'r newyddion trasig hyn wedi bod yn sioc i'r gymuned leol ac wrth gwrs yn newyddion dinistriol i'w theulu yr ydym yn eu cefnogi.
"Mae gennym ni dîm o swyddogion sy'n gweithio bob awr o'r dydd ar yr ymchwiliad hwn a gallaf gadarnhau bod dau ddyn yn nalfa'r heddlu - ac ar hyn o bryd nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall.
"Rydym yn creu darlun o symudiadau olaf Leanne rhwng 6pm ddydd Llun, 24 Chwefror a 2.20pm y dydd Iau canlynol, pan gafodd ei darganfod gan swyddogion.
"Rydym yn gofyn i unrhyw un sy'n byw ar Gomer Road neu wedi teithio drwyddi neu'r ardaloedd cyfagos yn ystod yr amser hwn i wirio eu CCTV preifat neu ddeunydd dashfwrdd am unrhyw beth a all fod yn berthnasol. Ni waeth pa mor ddibwys ydyw yn eich barn chi. Yn benodol rydym am glywed gan bobl oedd yn adnabod Leanne ac sydd heb siarad â swyddogion eto.
"Bydd y gymuned wedi sylwi ar weithgarwch yr heddlu yn yr ardal hon ac mae hyn er mwyn rhoi sicrwydd i breswylwyr rydym yn gwybod sy'n poeni ac er mwyn siarad â nhw i weld a oes ganddynt wybodaeth a all ei helpu ni."
Mae tâp ynysu’r heddlu o amgylch y cyfeiriad yn Gomer Road.
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth neu ddeunydd fideo eu cyflwyno ar-lein yma: Public Portal
Fel arall, gallwch gysylltu â ni drwy un o'r ffyrdd canlynol, gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2500063736.
Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
Cysylltwch â ni drwy https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.
Neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111