Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dynion o Gaerdydd wedi cael eu carcharu am droseddau cyffuriau a chaethwasiaeth fodern.
Camfanteisiodd y delwyr cyffuriau Cameron Farrah, 25 oed, a Tyrese Jones, 23 oed, o Drelái, ar fechgyn ifanc agored i niwed i werthu cyffuriau ar eu rhan er mwyn gwneud mwy o elw.
Byddai'r dioddefwyr yn treulio'r rhan fwyaf o'u diwrnodau a'u nosweithiau mewn ardaloedd coediog diarffordd, mewn pebyll dros dro yn gwerthu crac cocên a heroin.
Cafodd Farrah a Jones eu harestio fel rhan o ymgyrch plismona rhagweithiol ar gyfer llinell cyffuriau “CC” a oedd yn gweithredu ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.
Cafodd tri unigolyn arall – Chakeel Lovell, 23 oed, o Benylan, Joshua Dunbar, 28 oed, o Bentyrch, a Taylor Penny Soraya Williams, 25 oed, o Drelái – hefyd eu harestio am eu rolau yn y llinell cyffuriau.
Roedd llinell cyffuriau CC yn llinell cyffuriau sefydledig a phrysur a oedd wedi bod yn gweithredu ers sawl blwyddyn yn ardal Caerdydd.
Datgelodd ymchwiliad yr heddlu yr amodau erchyll y gorfodwyd y pedwar dioddefwr i weithio ynddynt rhwng mis Tachwedd 2023 a mis Ionawr 2024.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Tim Jones, yr Uwch-swyddog Ymchwilio:
“Roedd y dioddefwyr yn eistedd ar hen ddodrefn wedi'u taflu mewn lleoliadau coediog oddi wrth y cyhoedd, dros nos, mewn pebyll dros dro, wedi'u hamgylchynu â machetes, cyllyll, ac nid oeddent yn cael llawer o dâl am eu hamser yn gwerthu'r cyffuriau peryglus hyn.
“Mae camfanteisio ar blant sy'n agored i niwed fel hyn yn ffiaidd.Nid oes lle i ecsbloetiaeth na chaethwasiaeth yn ein cymunedau yn Ne Cymru, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i arestio'r rhai dan sylw.”
Hwn yw'r achos cyntaf o'i fath yng Nghaerdydd lle mae llinell cyffuriau wedi cael ei erlyn am droseddau caethwasiaeth fodern ynghyd â chyhuddiadau o fasnachu mewn cyffuriau heb fod angen i unrhyw ddioddefwyr roi tystiolaeth i gefnogi'r erlyniad.
Cafodd Dunbar, Farrah a Lovell eu harestio yn Highbury Road, Trelái, Caerdydd, ar 13 Mawrth, 2024.
Yn ystod yr arestiadau, cafodd 2kg o heroin ei atafaelu.
Cafodd Jones ei arestio bythefnos yn ddiweddarach yng nghyfeiriad ei gartref. Cafodd Williams ei arestio ar 18 Ebrill, 2024.
Ymddangosodd y pump gerbron Llys y Goron Casnewydd ddydd Mercher, 19 Mawrth, ac fe'u dedfrydwyd fel a ganlyn.
Ychwanegodd y Ditectif Arolygydd Jones:
“Mae Heddlu De Cymru yn ymrwymedig i nodi a diogelu unrhyw bobl ifanc neu bobl sy'n agored i niwed yn y gymuned y mae Grwpiau Troseddau Cyfundrefnol yn camfanteisio arnynt fel y grŵp hwn. Byddwn yn mynd ati i osod gorchmynion megis Gorchmynion Atal Caethwasiaeth a Masnachu wrth gollfarnu unrhyw droseddwyr sy'n ymwneud â'r math hwn o droseddau.”