Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gwnaeth pedoffilydd a oedd yn gweithio mewn ffair boblogaidd feithrin perthynas amhriodol â merched mor ifanc ag 11 oed, gan brynu bwyd, alcohol, sigaréts a theganau meddal iddynt.
Roedd Carl Lintern, 42 oed, yn gweithio ym Mharc Pleser Ynys y Barri yn ystod haf 2023.
Daeth i sylw Heddlu De Cymru gyntaf ar ôl i rieni un o'i ddioddefwyr ei gwestiynu wyneb yn wyneb yn ei waith.
Gan ddweud nad oedd yn malio dim ar ôl ei gyhuddo, tynnodd lun o Carl Lintern a'i gyflwyno i un o swyddogion yr heddlu.
Lansiodd Tîm Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant Heddlu De Cymru ymchwiliad a daeth i wybod sut roedd Lintern yn meithrin perthynas amhriodol â'i ddioddefwyr drwy brynu sigaréts a rhoi talebau i'r ffair a theganau meddal iddynt, cyn camfanteisio'n rhywiol ar y dioddefwyr.
Cafodd ei arestio yn y ffair ac yn fuan wedi hynny, daeth swyddogion o hyd i dystiolaeth o achosion eraill o gam-drin dioddefwyr eraill.
O ganlyniad i'r ymchwiliad, daeth Heddlu De Cymru o hyd i nifer o ddioddefwyr eraill yr oedd Lintern wedi camfanteisio arnynt drwy fod yn gyfaill â nhw ar y cyfryngau cymdeithasol, anfon lluniau anweddus ohono ei hun atynt a'u stelcio wrth iddynt fyw eu bywydau o ddydd i ddydd.
Roedd yn aml yn meithrin perthynas amhriodol â'i ddioddefwyr yn y ffair lle roedd yn gweithio gan brynu nifer o anrhegion a rhoi sylw iddynt. Byddai'n bod yn gyfaill â nhw ar Snapchat ac yn eu blacmelio i anfon lluniau anweddus ato. Wrth i'r dioddefwyr ofyn iddo beidio â chysylltu, byddai'n bygwth rhannu lluniau o natur bersonol ohonynt fel ffordd o ddangos rheolaeth barhaus.
Wrth gael ei gwestiynu am yr achosion o gam-drin, gwadodd iddo fod mewn cyswllt rhywiol â'r dioddefwyr. Roedd yn honni iddo ddod yn ddyn poblogaidd yn y ffair a'i fod yn ‘ceisio helpu'r merched’.
Cafodd Carl Lintern, o Barrasford Road, Cramlington, Northumberland, ei gyhuddo o nifer o droseddau ac aeth ymlaen i bledio'n euog i ddau achos o fod â lluniau anweddus o blant yn ei feddiant a bygwth rhannu llun neu ffilm o natur bersonol o berson.
Plediodd yn ddieuog i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol ym mhresenoldeb plentyn dan 13 oed, a dau achos o ymosodiad rhywiol ar fenyw, ond cafodd ei ganfod yn euog yn dilyn treial.
Ar 10 Mawrth, cafodd ei ddedfrydu i dair blynedd ac wyth mis yn Llys y Goron Caerdydd.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Robyn Allen, o Dîm Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant Heddlu De Cymru:
“Defnyddiodd Carl Lintern ei swydd yn y ffair fel ffordd o gwrdd â'i ddioddefwyr a oedd yn agored i niwed a meithrin perthynas amhriodol â nhw. Byddai'n eu gorfodi ac yn eu rheoli er mwyn dal gafael ar eu bywydau ac roedd hyn yn gwneud iddynt deimlo'n ddiamddiffyn.
“Nid oes gan ei ymddygiad troseddol na'i ymdeimlad dinistriol o realiti le mewn cymdeithas. Rwy'n gobeithio y gall y dioddefwyr a'u teuluoedd gael rhywfaint o gysur o wybod ei fod bellach yn y carchar lle nad yw'n fygythiad i eraill mwyach. Dylai'r ddedfryd heddiw fod yn rhybudd i eraill sydd naill ai'n ymwneud â throseddau o'r natur hon neu yn eu hystyried.”
Mae Tîm Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant Heddlu De Cymru yn dîm ymroddedig sy'n cynnwys swyddogion arbenigol sy'n canolbwyntio ar erlyn y rhai sy'n camfanteisio'n rhywiol ar eraill.