Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd lleidr o Gaerdydd a oedd yn defnyddio cyllell i fygwth ei arestio o fewn dwy awr i ddwyn o'i archfarchnad leol.
Diolch i ddewrder cwsmer a recordiodd y digwyddiad cyfan ar ei ffôn, llwyddodd y swyddogion i adnabod yr unigolyn dan amheuaeth yn syth ac roeddent yn gwybod lle roedd yn byw.
Daethant o hyd iddo yn cuddio mewn atig – ychydig funudau ar droed o'r siop Lidl yr oedd newydd ddwyn ohoni – gyda rhywfaint o'r arian parod y gwnaeth ei ddwyn a 1.6g o grac cocên, yr oedd swyddogion yn amau ei fod wedi'i brynu gyda'r arian parod hwn, yn ei feddiant o hyd.
Aeth Leon Carpin, 34 oed o Bontprennau, i mewn i siop Lidl ar Caxton Place, Pentwyn, amser cinio ddydd Sadwrn 9 Tachwedd, gyda rhan o'i wyneb wedi'i orchuddio gyda sgarff.
Roedd y staff yn ei wylio'n agos wrth iddo ymddwyn yn eratig yn y siop, a oedd yn llawn cwsmeriaid.
Funudau'n ddiweddarach, sibrydodd ‘agora'r til’ yng nghlust un o weithiwr y siop wrth ddal cyllell.
Gwyliwch y clip hwn isod, wrth i gwsmer dewr a doeth a oedd yn sefyll ychydig lathenni yn unig i ffwrdd ddechrau recordio ei symudiadau.
Byddwch yn gweld bod Carpin yn gofyn i gynorthwyydd y ddesg talu, fwy nag unwaith, i agor y til. Mae'n cael ei rybuddio bod yr heddlu ar ei ffordd, gan fynd ati i bwyso botymau'n wyllt er mwyn agor y til ei hun.
Yn y diwedd, agorwyd y til iddo a llwyddodd y lleidr i ffoi gyda tua £250.
Cafodd ei arestiad mewn atig tŷ gerllaw ei ddal gan gamera heddlu a wisgir ar y corff.
Cafodd Leon Carpin, 34 oed o Glos y Ffynnon, Caerdydd, ei gyhuddo o ladrata, bod â chyllell yn ei feddiant mewn man cyhoeddus a bod â chrac cocên yn ei feddiant.
Aeth ymlaen i bledio'n euog i bob cyhuddiad, a chafodd ei garcharu am bum mlynedd a chwe mis yn Llys y Goron Caerdydd ar 28 Chwefror.