Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Gastell-nedd Port Talbot wedi cael ei garcharu am gyflawni troseddau rhywiol ar blant.
Ymosododd Ronald Keith Richards (a gaiff ei adnabod fel Keith), 66 oed, o ganol dinas Port Talbot, ar ddau ddioddefwr.
Datgelodd un o ddioddefwyr Richards i aelodau o’u teulu eu bod wedi cael eu treisio sawl gwaith gan Richards ers pan oed yn saith oed. Parhaodd hyn am gyfnod o bedair blynedd.
Roedd y dioddefwr arall wedi dioddef trais ac ymosodiad rhywiol gan Richards rhwng pan oedd yn 8 a 13 oed, dros 20 mlynedd yn ôl.
Ym mis Ionawr, cafodd Richards ei ganfod yn euog o'r 14 cyhuddiad, a oedd yn cynnwys teisio plentyn dan 13 oed, ymosodiad rhywiol, ymosodiad anweddus ac anwedduster difrifol.
Heddiw cafodd ei ddedfrydu i 25 mlynedd yn y carchar, sy'n cynnwys dedfryd estynedig, ac mae'n destun Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol amhenodol a Gorchymyn Atal amhenodol ar gyfer y ddau ddioddefwr. Bydd ei enw ar y gofrestr troseddwyr rhyw am oes.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Joanne Williams:
"Rydym yn canmol dewrder y dioddefwyr am roi gwybod am weithredoedd Ronald Richards.
"Mae cael profiad o'r lefel hon o gamdriniaeth o oedran mor ifanc yn erchyll. Bydd rhaid i'r dioddefwyr fyw gyda'r atgofion hyn am weddill eu bywydau.
"Mae Ronald Richards yn ddyn peryglus iawn a fanteisiodd ar blant diamddiffyn o oedran ifanc iawn. Roedd lefel a chysondeb ei droseddau yn aruthrol. Mae'n iawn ei fod yn mynd i'r carchar am gyfnod sylweddol o amser."