Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Gastell-nedd Port Talbot wedi cael ei garcharu ar ôl iddo ymosod yn dreisgar ar ddau ddioddefwr benywaidd.
Ymosododd Scott Miller, dyn 29 oed o Aberdulais, ar y ddau ddioddefwr ar sawl achlysur ar wahân. Tynnodd y dioddefwr cyntaf i'r llawr gerfydd ei gwallt cyn ei dyrnu'n ddidrugaredd yn ei gwyneb, gan achosi iddi daro ei phen ar ffrâm drws. Gadawodd ei ddioddefwr ag anafiadau niferus.
Tra roedd ar fechnïaeth am y troseddau uchod, ymosododd Miller ar ei ail ddioddefwr ar fwy nag un achlysur, gan gynnwys rhoi ei ddwylo o amgylch gwddw ei ddioddefwr, gan achosi iddi ddioddef pwl o banig. Gwnaeth hefyd fygythiadau i ladd y dioddefwr yma.
Plediodd Miller yn euog i fygu'n fwriadol a thri achos o ymosod drwy daro ac mae wedi cael ei ddedfrydu i 18 mis yn y carchar.
Dywedodd y Rhingyll Rachel Draisey:
"Fel heddlu, nid ydym yn goddef hyd yn oed un achos o drais yn erbyn menywod a merched. Roedd Scott Miller yn gyfrifol am enghreifftiau lluosog o'r ymddygiad annerbyniol hwn.
“Mae gan bawb yr hawl i deimlo'n ddiogel, ble bynnag y maent, ac ni ddylai neb ddioddef trais, aflonyddu na bygwth.
"Ni ddylai dioddefwyr Scott Miller fod wedi gorfod dioddef y profiadau trawmatig hyn.
“Gall y rhai sy'n dioddef cam-drin fod yn sicr y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'w cefnogi a'u hamddiffyn rhag niwed.”