Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Cyn-esgob o Abertawe wedi cael ei garcharu ar ôl pledio'n euog i nifer o droseddau rhyw yn erbyn plant.
Plediodd Anthony Pierce, 84 oed, o Fro Abertawe, yn euog i bum achos o ymosod yn anweddus ar blentyn dan 16 oed yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener 7 Chwefror 2025.
Heddiw, mae wedi cael ei ddedfrydu i bedair blynedd a mis yn y carchar. Pan gaiff ei ryddhau, bydd yn destun Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol. Bydd ei enw ar y gofrestr troseddwyr rhyw am oes.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Sharon Gill-Lewis:
“Rwy'n canmol dewrder y dioddefwr wrth roi gwybod am weithredoedd Anthony Pierce, a oedd yn allweddol i'n helpu i'w ddwyn i gyfrif.
"Hoffwn hefyd dalu teyrnged i'r Ditectif Gwnstabl Sioned Davies, y bu ei gwaith yn ystod yr ymchwiliad hwn yn hollbwysig i ddatgelu troseddau Anthony Pierce.
"Mae Heddlu De Cymru yn cymryd pob adroddiad am ymosodiad rhywiol o ddifrif, ac rydym yn annog dioddefwyr i gysylltu â ni – ni waeth pryd y digwyddodd yr ymosodiad – gan wybod yn hyderus y byddant yn cael eu trin â pharch ac urddas ac yr ymchwilir i'w honiad."
Am wybodaeth a chanllaw ategol ar roi gwybod am droseddau rhywiol, gweler yma: Rhoi gwybod am drais rhywiol, ymosodiad rhywiol a throseddau rhywiol eraill | Heddlu De Cymru
I gael help a chymorth mewn perthynas â thrais rhywiol, ymosodiad rhywiol a throseddau eraill, gweler yma: Trais rhywiol, ymosodiad rhywiol a throseddau rhywiol eraill | Heddlu De Cymru