Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae tri dyn o Abertawe wedi cael eu carcharu am eu rhan mewn gang cyffuriau cyfundrefnol.
Roedd Rhys Higgins, 34 oed o Portmead, Liam McCabe, 28 oed o Flaen-y-maes, a Dennis McCabe, 50 oed o'r Cocyd yn destun gwarantau yn eu cyfeiriadau cartref ar 17 Hydref y llynedd.
Daethpwyd o hyd i symiau sylweddol o arian parod ym mhob un o'r cyfeiriadau, gyda chyfanswm dros £137,000. Roedd dau o'r cyfeiriadau yn cynnwys pum ffôn symudol yr un, tra bod y trydydd yn cynnwys 93 o roliau o grac cocên a chloriannau electronig.
Daethpwyd hefyd o hyd i dystiolaeth yn cysylltu'r tri dyn â phrynu symiau mawr o gocên.
Maent wedi cael eu dedfrydu i ddeng mlynedd (Rhys Higgins), saith mlynedd a chwe mis (Liam McCabe) a thair blynedd (Dennis McCabe) yn y carchar yn y drefn honno.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Luke Tucker:
"Rhys Higgins, Liam McCabe a Dennis McCabe yw'r enghreifftiau diweddaraf o droseddwyr cyflenwi cyffuriau sy'n cael eu dwyn i gyfrif yn ardal ein heddlu.
“Roedd gan bob un ohonynt symiau sylweddol o arian parod yn eu cyfeiriadau cartref, sy'n dangos bod eu gweithgareddau anghyfreithlon ddim ond at ddibenion elwa'n ariannol, ac nad oeddent yn poeni dim am lesiant y rhai a oedd yn prynu'r cyffuriau y maent wedi'u cyflenwi.
“Mae pob un ohonynt bellach yn dechrau dedfryd hir o garchar. Nid yw troseddau cyffuriau yn talu – fel nifer mawr iawn o bobl eraill, bydd ein swyddogion yn eich adnabod, ac byddwch yn cael eich dwyn i gyfrif.”