Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Gastell-nedd Port Talbot wedi cael ei garcharu am achosi niwed corfforol gwirioneddol ac ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol.
Ymosododd Thomas Edwards, 24 oed o Aberafan, ar ei ddioddefwr ym mis Awst 2024. Yn ystod yr un mis, gorfododd ei ddioddefwr i anfon fideos ato i ddangos pwy oedd gyda hi yn y gwaith. Hefyd anfonodd neges lais fygythiol at ei rheolwr, yn ogystal â mynd i'w gweithle i'w gwylio wrth iddi gyflawni shifft.
Roedd enghreifftiau pellach o ymddygiad rheolaethol Edwards yn cynnwys ei hatal rhag gweld ffrindiau a mewngofnodi i'w chyfrifon cyfryngau cymdeithasol er mwyn monitro ei gweithgaredd.
Ar ôl pledio'n ddieuog i ddechrau, newidiodd Edwards ei ble i euog ym mis Ionawr.
Yr wythnos hon, cafodd ei ddedfrydu i 16 mis yn y carchar.
Dywedodd y Rhingyll Emma Beasley:
“Roedd ymddygiad rheolaethol Thomas Edwards yn annerbyniol, a bu ei ddioddefwr yn byw bywyd llawn gofid ac yn ofni ei weithredoedd drwy'r amser.
“Ni ddylai neb orfod mynd drwy'r hyn a wnaeth Thomas Edwards i'w ddioddefwr.
“Os ydych yn teimlo eich bod yn wynebu ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol, rhowch wybod. Bydd ein swyddogion yn gallu eich cefnogi, a lle y bo'n berthnasol, dwyn troseddwyr o'r fath i gyfrif.”