Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd 38 o arfau tanio ychwanegol eu cyflwyno i Heddlu De Cymru yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill, ar ôl i'r heddlu ymestyn cyfnod ildio yn sgil cefnogaeth y cyhoedd.
Ym mis Chwefror, o dan faner Yn y Dwylo Anghywir, cefnogodd yr heddlu ymgyrch ildio arfau tanio cenedlaethol, a arweiniodd at ddinistrio 160 o eitemau a gafodd eu hildio.
Roedd y cyfanswm hwn yn cynnwys 32 o ynnau tanio ergydion gwag gydag awyrell ar y top, a ddaeth yn anghyfreithlon yn dilyn newid i ddeddfwriaeth yn ddiweddar, a chwe arf tanio anghyfreithlon arall.
Ildiwyd 25 o arfau tanio wedi'u trwyddedu yn ogystal ag arfau tanio eraill fel arfau aer a gynnau BB.
Cymaint fu'r ymateb cadarnhaol gan ein cymunedau, cafodd y cyfnod ildio ei ymestyn am ddau fis ychwanegol, a bu'n llwyddiant unwaith eto.
Yn ogystal â'r 38 o arfau tanio a gafodd eu hildio – a oedd yn cynnwys tri arf tanio ergydion gwag, un copi o arf tanio neu arf tanio hynafol a 15 o arfau aer a gynnau BB – cafodd yr un faint o fwledi a chetris ac ategolion eraill eu cyflwyno i'n gorsafoedd amrywiol.
Diolchodd y Ditectif Brif Arolygydd Chris Williams, arweinydd troseddau gynnau Heddlu De Cymru, i gymunedau lleol am chwarae eu rhan wrth gadw cyfraddau troseddau gynnau yn isel yn ne Cymru.
“Mae wedi bod yn galonogol iawn gweld cefnogaeth y cyhoedd, nid yn unig yn ystod yr ymgyrch ildio cenedlaethol cychwynnol, ond yn ystod y cyfnod estynedig lleol hefyd.
"Yn ffodus, mae cyfraddau troseddau gynnau yn ne Cymru yn parhau i fod yn isel iawn, ond mae digwyddiadau diweddar yn ein cymunedau yn dangos pa mor ddinistriol y gall y canlyniadau fod os bydd arfau tanio yn y dwylo anghywir.
“Mae ein hymgyrch Yn y Dwylo Anghywir yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth yn ogystal â thynnu arfau tanio o'n cymunedau. Roedd wedi atgoffa deiliaid arfau tanio trwyddedig i sicrhau eu bod yn parhau i weithredu o fewn y gyfraith, ac wedi atgoffa ein cymunedau y gall hyd yn oed arfau tanio ‘diniwed’ yn ôl pob golwg, fel gwn BB, gael eu defnyddio i achosi anaf, codi ofn neu gyflawni troseddau difrifol.
“Er bod cyfraddau troseddau gynnau yn ne Cymru yn parhau i fod yn isel, rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod hyn yn parhau, ac ni fyddwn yn hunanfodlon.
“Er bod cyfnod yr ymgyrch wedi dod i ben, mae cyfle o hyd i'r cyhoedd chwarae ei ran i gadw ein cymunedau yn ddiogel. Gellir ildio arfau ar unrhyw adeg – nid oes angen aros am ymgyrch ildio."
Ai yn ystod cyfnod ildio yn unig y gallaf ildio arf?
Na. Gellir mynd ag unrhyw arf i orsaf heddlu unrhyw bryd. Diben y cyfnodau ildio hyn yw talu sylw i beryglon troseddau drylliau a thynnu sylw at y ffyrdd cywir o'u gwaredu.
Mae gennyf arf tanio i'w ildio, beth ddylwn i ei wneud?
Dylai unrhyw un sydd am ildio ond na all fynd i orsaf heddlu neu sy'n pryderu am gludo arf tanio/bwledi a chetris gysylltu â'n hystafell reoli i gael cyngor pellach. Ffyrdd o gysylltu â ni.
Os byddaf yn cyflwyno arf tanio, ydw i'n cael fy ngwarchod gan unrhyw ganlyniadau pe bai'r arf hwn wedi cael ei ddefnyddio mewn trosedd?
Bydd unrhyw un fydd yn ildio arf tanio neu unrhyw arf arall yn cael imiwnedd ar gyfer bod â'r arf yn ei feddiant ar adeg ildio. Bydd swyddogion ymholiadau gorsaf yn gofyn cwestiynau er mwyn cwblhau'r ffurflen ildio arf tanio. Fodd bynnag nid oes rhwymedigaeth i ateb y cwestiynau a gall yr unigolyn fydd yn ildio ddewis ei ildio'n ddienw.
Fodd bynnag, mae dyletswydd ar Heddlu De Cymru i ymchwilio i hanes yr arf tanio er mwyn nodi a yw'n gysylltiedig â throsedd ac i ddwyn y rheini sy'n rhan o hyn i gyfrif.