Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Swydd Hertford wedi cael ei garcharu am gludo arian parod a chyffuriau ledled y DU ar ran Grŵp Troseddau Cyfundrefnol.
Ymddangosodd Nathaniel Armani, 46 oed o Hoddesdon, Swydd Hertford, gerbron Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Gwener 2 Mai i'w ddedfrydu o ganlyniad i Ymgyrch Tender.
Roedd Ymgyrch Tender yn ymchwiliad rhagweithiol dan arweiniad Tarian, sef yr Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol ar gyfer De Cymru, i gyflenwad cyffuriau dosbarth A a dosbarth B yn rhanbarth de Cymru.
Roedd Armani yn gweithio fel cludwr i Grŵp Troseddau Cyfundrefnol a oedd yn gweithredu o ardal yr Heddlu Metropolitanaidd. Roedd y grŵp yn gyfrifol am gyflenwi symiau aml-gilo o gocên a chanabis ar raddfa eang ledled y DU.
Ddydd Iau 12 Hydref 2023, ar gais Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian, gwnaeth swyddogion o Heddlu Cumbria stopio Armani wrth iddo yrru ei Audi A8 i'r de ar yr M6. Wrth chwilio ei gerbyd, daeth swyddogion o hyd i £200,000 mewn arian parod a nifer o ffonau symudol.
Ar ôl iddo gael ei arestio, cafodd ffonau symudol Armani eu harchwilio a chanfuwyd eu bod yn cynnwys tystiolaeth - gan gynnwys lluniau a fideos - o'i weithgareddau troseddol a'i gysylltiad â'r Grŵp Troseddau Cyfundrefnol.
Roedd Armani eisoes wedi pledio'n euog i droseddau gwyngalchu arian a chyflenwi cyffuriau mewn gwrandawiadau cynharach. Heddiw, cafodd ei ddedfrydu i 15 mlynedd yn y carchar am y canlynol:
Roedd cyfanswm gwerth cyfanwerthol y cyffuriau a gyflenwyd gan Armani ychydig o dan £3 miliwn.
Nododd Ei Anrhydedd y Barnwr Jeremy Jenkins CB, fod Armani wedi bod yn cludo “swm aruthrol o ganabis.”
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Sean Meyrick o Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian:
“Mae arestiad Armani yn dangos y bydd Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian yn mynd ar ôl troseddwyr ledled y DU. Mae dedfryd Armani yn tarfu'n sylweddol ar droseddu cyfundrefnol ac mae wedi cael effaith ar gyflenwi a dosbarthu cyffuriau Dosbarth A a B yn rhanbarth de Cymru. Dylai hefyd fod yn rhybudd i eraill sy'n ymwneud â throseddau tebyg.”