Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Roedd Ebenezer Ankomah-Edjei yn arwain llinell gyffuriau, ac yn gyfrifol am baratoi a gwerthu cyffuriau Dosbarth A yn Ne Cymru.
Llun dalfa'r heddlu o Ebenezer Ankomah-Edjei (chwith) ac Elisha Kohnstamm.
Roedd Elisha Kohnstamm, 27 oed, yn gweithio fel rhedwr iddo ac yn byw yng Nghaerdydd.
Ond mae'r ddau bellach yn y carchar.
Ym mis Ionawr, 2024, daeth Tîm Troseddau Cyfundrefnol Caerdydd a'r Fro o hyd i linell cyffuriau a oedd wedi bod yn hysbysebu cynnyrch i ddefnyddwyr cyffuriau wedi'u lleoli yng Nghaerdydd.
Datgelodd ymholiadau pellach fod y llinell cyffuriau yn gysylltiedig ag unigolion yn Llundain.
Dechreuodd ymchwiliad ar y cyd rhwng Heddlu De Cymru a Gwasanaeth yr Heddlu Metropolitanaidd, a nodwyd mai Ebenezer Ankomah-Edjei, 34 oed, oedd deiliad y llinell.
Nodwyd mai Elisha Kohnstamm, 27 oed, oedd rhedwr y llinell yng Nghaerdydd.
Ar 5 Mehefin 2024, gweithredwyd gwarant yng nghartref Ankomah-Edjei yn Camden, Gogledd Llundain, lle daethpwyd o hyd iddo yn y gwely â 70 o roliau o grac cocên a heroin yn ei ddwylo. Dangosodd dyfeisiadau symudol dystiolaeth o'i rôl arweiniol yn y llinell gyffuriau.
O Lundain, roedd yn cyfarwyddo'r broses o baratoi a gwerthu cyffuriau Dosbarth A yn Ne Cymru, gan drefnu hefyd i'r cyffuriau gael eu storio a'u dosbarthu o amgylch Llundain.
Cafodd Kohnstamm ei arestio yn y Sblot, Caerdydd.
Ar 11 Gorffennaf 2024, plediodd yn euog i gyhuddiadau ei bod yn gysylltiedig â chyflenwi heroin a chrac cocên.
Gwadodd Ebenezer Ankomah-Edjei ei fod yn gysylltiedig â'r broses, ond yn dilyn treial yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Chwefror 2025, fe'i cafwyd yn euog o bedwar cyhuddiad - bod yn gysylltiedig â chyflenwi heroin, bod yn gysylltiedig â chyflenwi crac cocên, bod â heroin yn ei feddiant â'r bwriad o'i gyflenwi a bod â chrac cocên yn ei feddiant â'r bwriad o'i gyflenwi.
Cawsant eu dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau, 1 Mai i XXXXX
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Bathan Williams, o Heddlu De Cymru: "Roedd Ebenezer Ankomah-Edjei yn gwneud elw o werthu cyffuriau Dosbarth A i ddefnyddwyr ar strydoedd Caerdydd, heb ystyried yr effaith a'r dinistr roedd hynny'n ei achosi yng nghymuned Caerdydd ac heb unrhyw edifeirwch am hynny."
Mae gan Heddlu De Cymru ddull gweithredu dim goddefgarwch mewn perthynas â delio mewn cyffuriau, a dim ond un enghraifft yw hyn o'r gwaith rydym yn ei gyflawni.
Ni fyddwn yn goddef cyffuriau yn ein cymunedau, ac rydym yn targedu'r rhai y credir eu bod yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau a reolir yn barhaus.
Gallwn weithredu ar y wybodaeth a gawn gan y cyhoedd, ac rydym yn gwneud hynny'n rheolaidd, felly parhewch i gysylltu â chydweithio â ni.