Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Perry McCarthy, o Benarth wedi cael ei ddedfrydu i 21 o flynyddoedd yn y carchar am gyflawni 18 o droseddau rhyw yn erbyn plant dros gyfnod o bedair blynedd.
Dedfrydwyd y dyn 65 oed yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener, 2 Mai.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Joanna Cecerko, o Heddlu De Cymru:
"Hoffwn ganmol y dioddefwr am ei dewrder yn dod atom - diolch i'w hadroddiad a'r gefnogaeth gan ei theulu, rydym wedi cael cyfiawnder.
“Mae wedi bod yn gyfnod trawmatig i bawb dan sylw ac rwy'n gobeithio y bydd y canlyniad yn y llys yn dod â rhywfaint o gysur i'r dioddefwr a'i theulu, y maent yn ei haeddu.”
Gwadodd McCarthy y troseddau ond fe'i cafwyd yn euog o 18 o droseddau gan gynnwys:
Dywedwyd wrth McCarthy yn y llys y bydd rhaid iddo fod yn y carchar am o leiaf 14 o flynyddoedd cyn cael ei ystyried i gael parôl.
Nid ydym byth yn tanamcangyfrif pa mor anodd yw hi i oroeswyr cam-drin rhywiol siarad allan ac adrodd.
Ond rydym yn gobeithio y bydd achosion fel hwn yn rhoi sicrwydd y bydd dioddefwyr yn cael eu gwrando, eu trin ag urddas a pharch, a'u cefnogi drwy gydol y broses gyfreithiol.
Os ydych chi wedi cael eich cam-drin yn rhywiol, ac nad ydych chi eto'n barod i adrodd i'r heddlu, peidiwch â dioddef yn dawel. Gellir dod o hyd i gyfoeth o wybodaeth a manylion am wasanaethau cymorth yma.