Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i farwolaeth Taha Soomro bachgen 16 oed ym Mharc Pleser Ynys y Barri.
Mae bachgen 15 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod ac mae nawr ar fechnïaeth nes y bydd ymholiadau pellach wedi cael eu cwblhau.
Mae teulu Taha wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf ac maent yn parhau i gael eu cefnogi.
Mae ymholiadau helaeth yn parhau i sefydlu achos ac amgylchiadau marwolaeth Taha.
Gofynnir i unrhyw un a oedd yn ardal Parc Pleser Ynys y Barri o gwmpas adeg y digwyddiad, tua 5pm Nos Wener, 23 Mai, a allai fod â gwybodaeth a allai helpu gyda'nhymchwiliad i gysylltu â ni.
Mae'r ditectifs yn awyddus iawn i dderbyn unrhyw ddeunydd fideo oddi ar ffonau symudol.
Gellir cyflwyno ddeunydd fideo a gwybodaeth ar-lein yma: https://mipp.police.uk/operation/62SWP25C07-PO1
Fel arall, gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth neu bryderon i gysylltu â ni drwy un o'r ffyrdd canlynol gan ddyfynnu 2500163611.
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
Ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
101
*Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.*
Gellir rhoi gwybodaeth hefyd yn ddienw ar Crimestoppers ar 0800 555 111, neu drwy'r ffurflen ar-lein ar Rhoi Gwybodaeth | Crimestoppers (https://crimestoppers-uk.org/give-information)