Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i ddiflaniad menyw o Gaerdydd, Charlene Hobbs, wedi cael gwybodaeth newydd am bosibilrwydd ei bod wedi cael ei gweld yn Adamsdown a Coryton.
Mae aelodau o'r cyhoedd wedi cysylltu â Heddlu De Cymru yn credu eu bod wedi gweld Charlene yn y lleoliadau hyn gyda phobl sy'n anhysbys sydd ar hyn o bryd.
Mae ditectifs yn apelio i'r bobl anhysbys hyn, sy'n dystion posibl, gysylltu â ni.
Yr adeg gyntaf y mae'n bosibl ei bod wedi cael ei gweld:
Am tua 11.20am ar 29 Gorffennaf ar y bont rheilffordd sy'n cael ei hadnabod yn lleol fel Black Bridge, sy'n cysylltu Adamsdown a'r Sblot. Mae'n bosibl ei bod yn gwisgo siaced las. Cafodd ei gweld yn cerdded mewn rhes gyda dau ddyn sydd wedi'u disgrifio fel a ganlyn:
1) gwyn a gwelw, yn ei 30au neu 40au, ac o daldra canolig.
2) yn gwisgo gorchudd wyneb du. Nid yw'n hysbys a oedd hwn yn rhan o gôt, sgarff neu falaclafa, ac o daldra canolig.
Yr ail adeg y mae'n bosibl ei bod wedi cael ei gweld:
Am tua 5.30pm ar 1 Tachwedd yn Asda, Coryton, Caerdydd, roedd Charlene yn sefyll wrth ddesg ddiogelwch gyda bachgen ifanc tua 4 oed.
Aeth menyw, y disgrifiwyd ei bod tua 40 oed gyda gwallt byr lliw gwin, at Charlene a gadawodd y tri yr archfarchnad.
Nid oes unrhyw un wedi gweld Charlene, 36 oed o Lan yr Afon, Caerdydd, ers mis Gorffennaf 2024.
Mae ei diflaniad yn cael ei drin fel llofruddiaeth ac mae elusen Crimestoppers yn parhau i gynnig gwobr hyd at £20,000 am wybodaeth a fydd yn arwain at arestio ac euogfarnu'r unigolyn neu'r unigolion sy'n gyfrifol.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Powell, o Heddlu De Cymru:
"O ganlyniad i ymholiadau rydym wedi cael gwybodaeth o ddau achos y mae'n bosibl bod Charlene wedi cael ei gweld.
"Rydym yn apelio i unrhyw un sydd â rhagor o wybodaeth am yr adegau hyn y cafodd Charlene ei gweld yn Adamsdown a Coryton gysylltu â ni.
Yn benodol, rydym yn annog y ddau ddyn ar y bont rheilffordd a'r fenyw â'r gwallt lliw gwin yn Asda i ddod ymlaen.
Er y nifer uchel o ymholiadau, nid oes gennym dystiolaeth bod Charlene yn fyw, ond rydym yn parhau i fod yn benderfynol o ddod o hyd i Charlene yn fyw a'i dychwelyd at ei theulu.
"Rydym yn dal i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i deulu Charlene, ac rydym yn meddwl amdanynt ar yr adeg anodd hon."

Cafodd Charlene, y mae ganddi datŵ amlwg o ddraig ar ei chefn, ei gweld ar CCTV yn Morrisons Local, Adamsdown ar 23 Gorffennaf, 2024.
Y tro diwethaf i Charlene gael ei gweld oedd mewn llun a dynnwyd mewn eiddo yn Broadway, Adamsdown ar 24 Gorffennaf, 2024. Roedd ei gwallt mewn 'bun', ac roedd yn gwisgo top tywyll heb strapiau.
Mae dyn 45 oed a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â'r ymchwiliad yn parhau ar fechnïaeth.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am wobr Crimestoppers yma: https://crimestoppers-uk.org/news-media/news/2025/mar/20-000-reward-offered-for-information-on-murder-of-charlene-hobbs-fom-south-wales
Gellir cyflwyno gwybodaeth a deunydd fideo oddi ar ddyfeisiau fel ffonau symudol, camerâu teledu cylch cyfyng, clychau drws neu gamerâu dashfwrdd i Heddlu De Cymru drwy'r ddolen hon: https://mipp.police.uk/operation/62SWP24B95-PO1
Neu:
Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB
Cysylltwch â ni drwy https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
Ffonio 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.