Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Wrth i'r haf agosau, mae Ymgyrch Adriatic, ein hymgyrch haf flynyddol ar lan y môr i frwydro yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol, wedi cael ei hail-lansio ar gyfer 2025.
Yn yr ymgyrch bydd Heddlu De Cymru yn gweithio'n agos ar y cyd â Chyngor Castell-nedd Port Talbot, Castell-nedd Port Talbot Mwy Diogel, Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) ac asiantaethau eraill er mwyn gwneud glan y môr yn lle pleserus y gall pawb ei fwynhau.
Ar adegau drwy gydol yr haf, bydd gorchymyn gwasgaru Adran 35 yn cael ei awdurdodi ar y traeth, sy'n golygu y bydd pobl sy'n rhan o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gorfod gadael yr ardal.
Yr ardal ddynodedig i'w gadael yw: Y Traeth cyfan gan gynnwys Y 'Traeth Bychan', Pier y Gogledd, ac ardal y promenâd i gyd gan gynnwys busnesau ar hyd y promenâd fel Remo's a Franco's i Draeth Bae Baglan, gan gynnwys y twyni ar y traeth hwn.
Dywedodd yr Arolygydd Jared Easton:
"Mae Ymgyrch Adriatic yn ymateb amlasiantaeth cydgysylltiedig sydd wedi cael ei lansio i sicrhau bod glan y môr Aberafan yn parhau i fod yn lle diogel, croesawgar a phleserus i bawb yn ystod y gwanwyn a'r haf. Bydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar ymgysylltu â'r cyhoedd ac atal ymddygiad gwrthgymdeithasol.
"Mae'r ymgyrch yn rhan o'n gwaith tymhorol ehangach i gefnogi'r gymuned leol ac ymwelwyr drwy annog ymddygiad cadarnhaol a chyfrifoldeb ar y cyd am gadw amgylchedd y traeth yn ddiogel a pharchus.
"Mae gweithio mewn partneriaeth yn allweddol, a thrwy gyfuno adnoddau a rhannu cudd-wybodaeth, rydym mewn sefyllfa well i atal problemau rhag gwaethygu a chynnig cymorth lle bo angen.
"Drwy ymgysylltu'n gynnar ac yn aml, gallwn atal problemau cyn iddynt ddechrau a sicrhau bod pawb yn teimlo'n ddiogel ac wedi'u cynnwys."
Os ydych wedi gweld rhywun yn ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol, rhowch wybod i ni: Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)
Dywedodd y Cynghorydd Alun Llewelyn, Dirprwy Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot ac Aelod o'r Cabinet dros Dai a Diogelwch Cymunedol:
"Mae Ymgyrch Adriatic yn rhan allweddol o'n cynlluniau diogelwch yr haf, a thrwy ein Partneriaeth Castell-nedd Port Talbot Mwy Diogel, byddwn yn gweithio'n agos gyda Heddlu De Cymru a phartneriaid eraill i gadw Glan y môr Aberafan yn ddiogel a phleserus i bawb.
"Glan y môr Aberafan yw un o'r llefydd mwyaf poblogaidd yn ein cyngor bwrdeistrefol, ac rydym yn gwybod pa mor bwysig ydyw i deuluoedd, trigolion a busnesau lleol. Drwy gyfuno ein hymdrechion–boed hynny drwy ymgysylltu â chymunedau, allgymorth ieuenctid, neu gamau gorfodi wedi'u targedu lle bo angen–rydym yn helpu i greu amgylchedd croesawgar lle gall pawb deimlo'n ddiogel."
Dywedodd Clive Morris, Rheolwr Gweithrediadau Badau Achub:
"Mae Ymgyrch Adriatic nawr yn cychwyn ar ei phedwerydd tymor. Cafodd ei datblygu i wneud ardal y traeth yn fwy diogel a dymunol i bawb ei mwynhau. Mae'r RNLI wedi ymuno ag asiantaethau eraill i leihau'r amseroedd ymateb i achosion sy'n cynnwys unigolion coll a gwella diogelwch yn gyffredinol ar hyd glan y môr.
"Drwy weithio gyda'n gilydd, rydym wedi creu glan y môr bywiog a chroesawgar sy'n parhau i ddenu mwy o ymwelwyr. Mae bob amser yn bleser gweld ein partneriaid yn Heddlu De Cymru yn gweithio o'n gorsaf – mae eu presenoldeb yn gwneud gwahaniaeth mawr."