Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae tri dyn wedi cael eu carcharu ar ôl iddynt orfodi eu ffordd i mewn i gartref menyw yn Waun Wen, Abertawe gan honni bod aelod o'i theulu mewn dyled gyffuriau iddynt.
Achosodd Saeed Afshar, 31 oed o Barking, Gary Akister, 26 oed o Abertawe, a Tyrese Douglas, 25 oed o Southwark, Llundain, i ddeiliad y cartref ofni am ei diogelwch pan arhosodd y tri yn yr eiddo am bedair awr. Cuddiodd y dynion gyffuriau yn yr eiddo ar ôl targedu'r deiliad ar gyfer ‘cogio’.
Yna, gadawodd Afshar ac Akister er mwyn casglu dyled gyffuriau arall mewn rhan arall o Abertawe, ond cawsant eu harestio gan swyddogion yn fuan wedi hynny.
Mae Saeed Afshar a Gary Akister wedi cael eu dedfrydu i wyth mlynedd yn y carchar. Mae Tyrese Douglas wedi cael ei ddedfrydu i bedair blynedd a naw mis yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Richard George:
“Roedd y tri dyn hyn, y mae pob un ohonynt yn gysylltiedig â llinell cyffuriau “Gavin”, yn amlwg yn barod i gamfanteisio ar bobl agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu harian anghyfreithlon am gyffuriau.
“Roedd y dynion yn rhan o grŵp troseddau cyfundrefnol sy'n defnyddio lefelau uchel o drais a gorfodaeth er mwyn “cogio” pobl agored i niwed i roi caniatâd i ddefnyddio eu cartrefi ar gyfer ymgyrchoedd cyffuriau.
“Yn aml, mae grwpiau troseddau cyfundrefnol yn targedu pobl sy'n unig, yn ynysig, neu sydd â phroblemau dibyniaeth. Mae'n gyffredin i grwpiau troseddau cyfundrefnol ddefnyddio eiddo am gyfnod byr o amser, gan symud i gyfeiriad arall yn aml er mwyn lleihau'r siawns o gael eu dal.
“Mae'n ffodus iawn fod y dioddefwr dewr wedi gallu cael help yn gyflym yn yr achos hwn.”
Beth i'w wneud os byddwch yn amau bod rhywun rydych yn ei adnabod yn destun cogio
Mae nifer o arwyddion y dylid cadw golwg amdanynt a all ddangos bod rhywun yn destun cogio:
• ymwelwyr rheolaidd yn ystod oriau anghymdeithasol
• newidiadau yn arferion dyddiol eich cymydog
• arogleuon anarferol yn dod o eiddo
• cerbydau amheus neu anghyfarwydd y tu allan i gyfeiriad
Os byddwch yn amau bod hyn yn digwydd, rhowch wybod amdano drwy ffonio 101. Os bydd rhywun mewn perygl neu os yw trosedd yn cael ei chyflawni, ffoniwch 999 bob amser.