Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn dilyn nifer o ddigwyddiadau diweddar o danau bwriadol yn Abertawe a Chastell Nedd Port Talbot – yn arbennig digwyddiadau nodedig ym Mhort Talbot - mae Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (MAWWFRS) yn cyflwyno'r datganiad ar y cyd canlynol i rybuddio am y peryglon o gynau tanau.
Tannau bwriadol yw'r achos unigol mwyaf o danau mawr yn y DU ac mae'n dramgwydd troseddol difrifol. Mae'n bosibl y gall tannau bwriadol beryglu bywydau, oherwydd gall tanau sy'n cael eu cynnau'n fwriadol ledaenu'n gyflym, gan ddinistrio eiddo, peryglu bywydau ac amharu ar gymunedau.
Gall digwyddiadau yn dilyn gweithgareddau sy'n gysylltiedig â thannau bwriadol roi pwysau mawr ar adnoddau'r Gwasanaeth Tân ac Achub a gwasanaethau brys eraill, yn ogystal â dargyfeirio adnoddau o achosion brys eraill, ac o bosibl gohirio amseroedd ymateb i ddamweiniau gwirioneddol mewn llefydd eraill. Maent hefyd yn peri gwir berygl i ddiogelwch a bywydau ddiffoddwyr tân am eu bod mor anrhagweladwy.
Yn ddiweddar mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi bod yn arbennig o brysur yn ymateb i danau gwyllt ar raddfa fawr, a chafodd llawer o'r digwyddiadau hyn eu cychwyn yn fwriadol. Gall tanau gwyllt gael effaith ddinistriol a pharhaus ar yr amgylchedd, gan ryddhau cemegau i'r atmosffer, dinistrio cynefinoedd a lladd bywyd gwyllt. Mae'r digwyddiadau hyn yn aml y gofyn am ymateb bob awr o'r dydd a'r nos, gan gynnwys monitro parhaus a gweithredu ar y cyd i atal.
Mae atal a mynd i'r afael â thannau bwriadol yn flaenoriaeth allweddol i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (MAWWFRS). Mae hyn, nid yn unig yn cynnwys ymateb cyflym i ddigwyddiadau ac o ganlyniad ymchwiliadau tân, ond hefyd cydweithio agos â'r Heddlu, Awdurdodau Lleol, cymunedau a sawl asiantaeth partner arall i nodi risgiau ac addysgu'r cyhoedd.
Dywedodd Pennaeth Lleihau Tanau Bwriadol MAWWFR, y Rheolwr Gorsaf Scott O'Kelly:
"Rydym yn ymrwymedig i weithio gyda'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethau ac asiantaethau partner Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru i godi ymwybyddiaeth ac i leihau digwyddiadau o danau sy'n cael eu cynnau'n fwriadol.
"Yn anffodus, mae MAWWFRS wedi ymateb yn ddiweddar i gyfres o ddigwyddiadau sy'n gysylltiedig â thannau bwriadol, sy'n amrywio o dannau gwyllt i dannau mewn eiddo gwag.
"Rydym yn parhau i weithio gyda thrigolion a phartneriaid o fewn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethau i godi ymwybyddiaeth o ganlyniadau tanau bwriadol ac i leihau effaith ddinistriol tanau bwriadol."
Dywedodd yr Arolygydd Jared Easton:
“Mae cynnau tanau yn beryglus ac yn erbyn y gyfraith. Mae pedwar bachgen ifanc wedi cael eu harestio am bedwar digwyddiad unigol o gynau tanau bwriadol yn ardal Port Talbot yn y tair wythnos ddiwethaf.
"Ni fyddwn yn goddef yr ymddygiad hwn a byddwn yn delio'n gadarn â phobl sy'n cyflawni'r troseddau hyn."