Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu ar ôl iddo bledio'n euog i naw trosedd rywiol yn erbyn un dioddefwr, a ddechreuodd pan roedd y dioddefwr yn blentyn.
Datgelodd ei ddioddefwr i aelod o'i deulu fod Stephen Hindley, 58 oed, wedi arwain ymgyrch o droseddau rhywiol yn ei erbyn, pan roedd rhwng 9 a 22 oed. Honnwyd bod y troseddau wedi cael eu cyflawni ym Mayhill, Plasmarl a Threfansel rhwng canol y nawdegau a chanol y 2000au.
Methodd Hindley ag ymddangos mewn gwrandawiad mewn cysylltiad â'r troseddau hyn ym mis Mai 2013, a chyhoeddodd y Llysoedd warant i'w arestio. Bu ar ffo – gan ddefnyddio tactegau fel newid ei enw i osgoi'r heddlu – tan fis Gorffennaf 2024, pan gafodd ei arestio yn Llanelli ar ôl iddo gael ei weld gan swyddog yr heddlu nad oedd ar ddyletswydd.
Plediodd yn euog i bob cyhuddiad yn ei erbyn heblaw dau, a oedd yn ymwneud â cham-drin plant yn rhywiol a throseddau yn erbyn oedolyn.
Mae wedi cael ei ddedfrydu i ugain mlynedd yn y carchar. Bydd hefyd ar y gofrestr troseddwyr rhyw am oes, a bydd yn destun gorchymyn atal amhenodol mewn perthynas â'r dioddefwr.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd, Chris Evans:
“Mae Stephen Hindley yn ddyn a gyflawnodd droseddau erchyll yn erbyn ei ddioddefwr, o'r adeg pan roedd yn blentyn bach hyd nes ei fod yn oedolyn.
“Cyflawnodd ei droseddau rhyw dros gyfnod o ddegawd. Yna, treuliodd gyfnod tebyg o amser yn ceisio osgoi'r gyfraith a chanlyniadau ei weithredoedd. Yn y diwedd, cafodd ei ddal gan swyddogion.
“Os nad oedd profiad dychrynllyd y dioddefwr drwy gydol ei blentyndod bron yn ddigon gwael, mae'n siŵr bod yr aros arteithiol i weld ei gamdriniwr yn cael ei ddwyn o flaen ei well wedi gwneud y sefyllfa'n ganwaith gwaeth.
“Rydym yn falch iawn bod Stephen Hindley wedi dychwelyd i'r ddalfa yn y pen draw, a'i fod bellach yn dechrau dedfryd hir o garchar. Nawr, rydym yn gobeithio y gall ei ddioddefwr dewr ddechrau dod i delerau â'r hyn sydd wedi digwydd iddo a'i fod yn teimlo'n fwy diogel gan nad yw ar ffo mwyach.”