Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Gaerdydd wedi cael ei garcharu ar ôl iddo gael ei ganfod â chyffuriau Dosbarth A yn ei feddiant yn Abertawe.
Cafodd Ashton Banfield, 19 oed o Butetown, ei stopio gan swyddogion mewn dillad plaen ar Stryd Fawr Abertawe ar 27 Mawrth. Pan gafodd ei stopio, daethpwyd o hyd i swm o ganabis a chrac cocên ym mhoced ei siaced.
Roedd ganddo hefyd swm mawr o arian parod, yn ogystal â dau ffôn symudol, yn ei feddiant.
Plediodd Banfield yn euog i fod â chyffur Dosbarth A yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi, bod â chyffur Dosbarth B yn ei feddiant, a bod ag eiddo troseddol yn ei feddiant. Mae wedi cael ei ddedfrydu i bedair blynedd yn y carchar.
Dywedodd y Rhingyll Geraint Thomas:
“Roedd bwriadau Ashton Banfield yn Abertawe ar ddiwrnod ei arestiad yn glir – roedd yno i ddelio'r cyffuriau Dosbarth A a oedd yn ei feddiant ar strydoedd y ddinas.
“Mae'n ffodus bod ein swyddogion wedi ei stopio ar yr adeg honno – pe byddai wedi cael ei adael i barhau â'i weithgareddau anghyfreithlon, byddai llawer mwy o gyffuriau yn ein cymuned.
“Rydym yn gobeithio y bydd yn newid ei ffyrdd yn ystod ei gyfnod yn y carchar.”