Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu ar ôl iddo ddwyn cerbyd ac achosi anaf i'r perchennog wrth wneud hynny.
Aeth Stuart Black, 45 oed o Gadle, i mewn i'r cerbyd tra roedd y perchennog yn gwneud gwaith cynnal a chadw arno ar Glebe Road, Llwchwr.
Yna, ceisiodd yrru i ffwrdd, a cheisiodd y perchennog ei atal rhag gwneud hynny.
Cafodd Black wrthdrawiad yn y cerbyd, gan achosi anafiadau i'r perchennog, ac yna parhaodd i lawr y stryd cyn gyrru i mewn i gar arall a dianc ar droed.
Cafodd Black ei ddal a'i arestio gan PC Shepherd a PC Hill a chafodd gerllaw.
Yn ddiweddarach, plediodd yn euog i achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus, gyrru tra roedd wedi'i wahardd, gyrru heb yswiriant, a dwyn cerbyd gwaethygedig. Plediodd hefyd yn euog i ymosod ar ôl pledio'n ddieuog yn wreiddiol.
Mae wedi cael ei ddedfrydu i dair blynedd yn y carchar a'i wahardd rhag gyrru am dair blynedd a hanner.
Dywedodd y Rhingyll Stuart Williams:
“Mae Stuart Black yn lleidr sy'n bachu ar gyfleoedd a welodd gar yn rhedeg ac a benderfynodd fentro ei lwc a'i ddwyn. Wrth wneud hynny, ceisiodd y perchennog atal Black, ac yn anffodus bu'n rhaid iddo fynd i'r ysbyty o ganlyniad i hynny.
“Roedd hwn yn ddigwyddiad a ddeilliodd o weithredoedd troseddol Stuart Black yn unig. Roedd y dioddefwr yn ffodus o beidio â chael anafiadau mwy difrifol, ond serch hynny, roedd yn brofiad brawychus a gofidus iawn iddo.”